Mae asgellwr Cymru a Bournemouth, David Brooks, wedi cyhoeddi ei fod yn rhydd o gancr.

Cafodd y gŵr 24 oed sydd wedi ennill 21 o gapiau dros Gymru ddiagnosis o Stage 2 Hodgkin lymffoma ym mis Hydref ac nid yw wedi chwarae i’w wlad na’i glwb ers hynny.

“Mae ychydig o fisoedd wedi pasio ers fy niweddariad diwethaf, ac yn yr amser hynny dw i wedi gorffen fy nhriniaeth,” meddai David Brooks mewn datganiad.

“Hoffwn ddweud diolch enfawr i’r holl staff meddygol anhygoel am eu gwaith arbennig a’u cefnogaeth drwy gydol y broses.

“Rwy’n falch iawn o ddweud bod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus a gallaf ddweud yn awr fy mod bellach yn rhydd o gancr.

“Mae’r geiriau hynny’n teimlo’n anhygoel i’w dweud ac rwyf mor ddiolchgar am eich holl negeseuon a’ch dymuniadau da, mae’r rhain wir wedi fy helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.

“Rydw i mor gyffrous i ddechrau’r daith yn ôl i fod yn holliach a pharhau â fy ngyrfa bêl-droed.

“Mae’r bechgyn yn Bournemouth wedi cael tymor ardderchog hyd yn hyn ac rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Stadiwm y Vitality i gefnogi’r tîm yn y gemau pwysig sy’n weddill o’r tymor.

“Rwy’n benderfynol o weithio’n galed dros y misoedd nesaf ac alla i ddim disgwyl i fod yn chwarae o’ch blaen ar y cae yn y dyfodol agos.”

Chwaraewr canol cae Cymru, David Brooks, wedi cael diagnosis o lymffoma Hodgkin

Bydd y chwaraewr 24 oed, sy’n chwarae ei bêl-droed yn Bournemouth, yn dechrau ar driniaeth yr wythnos nesaf