Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, yn dweud bod y gêm gyfartal yn erbyn Swydd Derby yn Derby yn ganlyniad “teg” – er iddyn nhw ddod o fewn trwch blewyn i’r fuddugoliaeth.

Roedd y sir Gymreig 21 rhediad yn brin o’r nod pan ddaeth y gêm i ben neithiwr (nos Sul, Mai 2), diolch i ymdrechion arwrol Marnus Labuschagne a Sam Northeast, wrth i’w tîm gwrso 331 mewn 55 o belawdau.

Sgoriodd Swydd Derby 368 yn eu batiad cyntaf, gyda Brooke Guest yn taro 109, Wayne Madsen 70 a Shan Masood 60. O safbwynt bowlwyr Morgannwg, cipiodd Michael Hogan a Michael Neser bedair wiced yr un.

Tarodd Labuschagne 130 a’r capten David Lloyd 84, wrth i Forgannwg ymateb gyda sgôr o 387 i’w rhoi nhw ar y blaen o 19 rhediad ar ddiwedd y batiad cyntaf, gyda Suranga Lakmal yn cipio pum wiced am 82 i’r Saeson.

Tarodd Guest 138 a Madsen 135 heb fod allan wrth i Swydd Derby sgorio 349 am dair cyn cau’r batiad, a sgoriodd Morgannwg 310 am wyth erbyn i’r chwarae ddod i ben.

‘Hysbyseb wych i’r gêm sirol’

“Roedd hi’n gêm wych, ddaru nhw adael targed anodd i ni ond roedd hi’n llain dda ac mi wnaethon ni roi cynnig da arni,” meddai Matthew Maynard.

“Pe bai gennym ni wiced neu ddwy wrth gefn gyda thair neu bedair pelawd yn weddill, does wybod beth fedrai fod wedi digwydd.

“Roedd o’n hysbyseb wych i’r gêm sirol, mae gan y ddau dîm chwaraewyr o safon ac fe ddangosodd llawer ohonyn nhw’r safon yna dros y pedwar diwrnod.

“Roedd o’n ganlyniad teg.”