Heddiw (1 Mai) mae Penybont a’r Seintiau Newydd yn herio ei gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD.

Bydd yr ornest yn fyw S4C, gyda’r gic gyntaf am bedwar o’r gloch.

Dyma’r tro cyntaf i Benybont gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth yn eu hanes.

Ar y llaw arall bydd Anthony Limbrick yn anelu am y dwbl yn ei dymor llawn cyntaf fel rheolwr Y Seintiau Newydd ar ôl sicrhau tlws y Cymru Premier.

Y Seintiau Newydd yw deiliaid presennol y cwpan ar ôl ennill y gystadleuaeth am y seithfed tro yn eu hanes.

Ac yn fwy rhyfeddol byth dyw’r Seintiau Newydd heb ildio gôl wrth drechu Llanrwst, Conwy, Caerfyrddin, Cegidfa a Bae Colwyn yn y gwpan eleni.

Fe gurodd Penybont Gwndy, Cambrian a Clydach, Caernarfon, Ffynnon Taf a’r Bala i gyrraedd y rownd derfynol.

Gallwch brynu ticedi i’r gêm ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.