Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi condemnio fideo hiliol gan gefnogwr Caerdydd ar Twitter.

Mae’r fideo yn sarhau Michael Obafemi, ymosodwr yr Elyrch, yn ystod y gêm ddarbi fawr ar Ebrill 2.

Mae’n sarhau ei allu fel chwaraewr wrth feirniadu perfformiad yr Adar Gleision hefyd.

Dywed y clwb mewn datganiad eu bod nhw’n “cydweithio â Heddlu’r De a Chaerdydd gyda’u hymholiadau”.

“Does dim lle i’r fath ymddygiad yn y gymdeithas, heb sôn am bêl-droed, ac fel clwb byddwn ni’n cefnogi ein chwaraewyr a’n staff yn ddi-gwestiwn i helpu i ddileu pob math o ragfarn o’r gêm,” meddai llefarydd ar ran yr Elyrch.

Dydy Clwb Pêl-droed Caerdydd ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.