Fydd Ben Cabango ddim ar gael i chwarae dros dîm pêl-droed Cymru yn yr haf, ar ôl anafu ei ffêr.

Daeth cadarnhad na fydd amddiffynnwr canol Abertawe’n chwarae eto y tymor hwn, ar ôl gorfod gadael y cae yn ystod gêm yr Elyrch yn erbyn Bournemouth nos Fawrth (Ebrill 26), sef ei ganfed gêm i’r clwb.

Fe ddigwyddodd yr anaf yn dilyn tacl flêr gan gyn-ymosodwr Abertawe, Jamal Lowe, ac fe geisiodd Cabango barhau er ei fod e’n amlwg mewn poen.

Bu’n rhaid iddo gael sgan, ac mae difrifoldeb yr anaf wedi dod i’r amlwg erbyn hyn.

Bydd Cymru’n herio Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar Fehefin 1, ac mae ganddyn nhw gemau ail gyfle Cwpan y Byd ar y gweill hefyd ar Fehefin 5, cyn herio Gwlad Belg (Mehefin 10) a’r Iseldiroedd (Mehefin 13).

Y gobaith yw y bydd Ben Cabango yn holliach i ymuno â charfan yr Elyrch i baratoi ar gyfer y tymor newydd.