Mae tîm criced Morgannwg yn dechrau eu gêm Bencampwriaeth oddi cartref yn erbyn Swydd Derby heddiw (dydd Iau, Ebrill 28).

Y tîm cartref sy’n ail yn yr Ail Adran, tra bod Morgannwg yn dynn ar eu sodlau yn y trydydd safle yn y tabl.

Daw’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya i mewn i’r garfan, ynghyd â’r wicedwr Tom Cullen, gyda Dan Douthwaite a Callum Taylor allan.

Mae Cullen wedi batio’n dda i’r ail dîm dros yr wythnos ddiwethaf, ac roedd e’n allweddol ym muddugoliaeth Morgannwg yn eu gêm ddiwethaf yn Derby yn 2019.

Ar ôl colli yn erbyn Middlesex, bydd Morgannwg yn gobeithio taro’n ôl a pherfformio cystal ag y gwnaethon nhw i guro Swydd Nottingham yn Trent Bridge.

Ar ôl tair gêm mae Morgannwg wedi ennill un, colli un a’r llall wedi gorffen yn gyfartal, tra bod Swydd Derby 14 pwynt ar y blaen, un safle uwch eu pennau.

‘Anodd i’w lyncu’

“Roedd o’n un anodd i’w lyncu,” meddai’r capten David Lloyd am y golled yn erbyn Middlesex.

“Ond rhaid i ni godi’n hunain yn barod ar gyfer Swydd Derby.

“Dydi un canlyniad gwael ddim yn eich gwneud chi’n dîm sâl dros nos, ac rydan ni wedi cymryd llawer o bethau positif allan o weddill y criced rydan ni wedi’i chwarae hyd yn hyn y tymor hwn.

“Felly fel tîm, rydan ni wedi bod yn canolbwyntio ar y pethau positif hynny yr wythnos hon.”

Gemau’r gorffennol

Roedd Morgannwg yn fuddugol o ddwy wiced y tro diwethaf iddyn nhw deithio i Derby yn 2019, wrth i’r batwyr gwrso 246 mewn 87 o belawdau, gyda Tom Cullen ac Andrew Salter yn allweddol i’r canlyniad ar ôl i Lukas Carey a Dan Douthwaite gipio pedair wiced yr un.

Cipiodd Tony Palladino ddeg wiced i’r Saeson yn 2018 wrth iddyn nhw ennill o 169 o rediadau ar ôl i Forgannwg ddewis bowlio ar lain werdd.

Glaw ac eira yn unig oedd yn fuddugol yn 2016 a 2017 ac ar y cyfan, dim ond naw gwaith mewn 39 o gemau mae Morgannwg wedi ennill yn Derby, gyda’r buddugoliaethau’n dod yn 2003, 2006 a 2019.

Yn 2006, yr Awstraliad Mark Cosgrove oedd seren Morgannwg wrth iddo fe sgorio 233, y sgôr gorau erioed gan fatiwr Morgannwg ar yr hen gae ras.

Frank Ryan, yn 1930, gofnododd y ffigurau bowlio gorau erioed i Forgannwg ar y cae hwn, wrth i’r troellwr llaw chwith gipio deuddeg wiced am 113 yn yr ornest.

Tîm Swydd Derby: Shan Masood, B Godleman (capten), B Guest, W Madsen, L du Plooy, M McKiernan, A Dal, A Thomson, S Lakmal, S Conners, R Sidebottom

Tîm Morgannwg: D Lloyd (capten), A Salter, M Labuschagne, S Northeast, K Carlson, C Cooke, T Cullen, J Harris, M Neser, T van der Gugten, M Hogan

Sgorfwrdd