Mae S4C yn dweud eu bod nhw’n “siomedig” yn dilyn y cyhoeddiad am bartneriaeth newydd rhwng UEFA a gwasanaeth newydd Viaplay am bedair blynedd i ddangos o leiaf 40 o gemau pêl-droed yn fyw, gan gynnwys gemau Cymru.

Bydd y bartneriaeth yn dechrau yn 2024, ac yn cwmpasu gemau rhagbrofol Ewro 2028 a Chwpan y Byd 2026 fydd i’w gweld yn ecsgliwsif ar Viaplay, ynghyd â gemau Cynghrair y Cenhedloedd 2024-25 a 2026-27 a gemau cyfeillgar.

Daw’r cytundeb fel rhan o gyfrifoldeb UEFA am farchnata a gwerthu hawliau darlledu’r gwledydd sy’n aelodau, ac fe fydd yn sicrhau swm o arian i Gymdeithas Bêl-droed Cymru i’w wario ar bob lefel o’r gêm yng Nghymru.

Bydd Viaplay yn cael ei lansio yn ystod ail hanner eleni, gyda sylwebaeth fyw a chynnwys gwreiddiol arall, ac mae disgwyl cyhoeddiad maes o law am y cynnwys fydd ar gael yn y Deyrnas Unedig, y pris a’r dyddiad lansio swyddogol.

Sylwebaeth Gymraeg

Mae gan Viaplay ac UEFA bartneriaeth hirdymor yn Ewrop, ac wrth gyhoeddi’r bartneriaeth newydd hon, maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau sylwebaeth Gymraeg.

Ond mae yna amheuon yn sgil y bartneriaeth am hawl S4C i barhau i ddarlledu gemau Cymru.

“Yn amlwg, mae S4C yn siomedig gyda’r newyddion yma gan UEFA heddiw,” meddai llefarydd ar ran y sianel.

“Mae S4C yn trafod gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn cadarnhau’r sefyllfa o ran sylwebaeth Gymraeg.”

Ar Twitter, mae Noel Mooney, prif weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, yn dweud bod “trafodaethau ar y gweill” ynghylch sylwebaeth Gymraeg.

“Bore da. Mae UEFA yn gwerthu’r hawliau canolog ar gyfer pob un o’r 55 cymdeithas genedlaethol yn Ewrop,” meddai.

“Rydyn ni mewn trafodaethau gyda nhw o ran yr iaith Gymraeg, hyrwyddo’r gêm ddomestig yn rhyngwladol, gemau timau cenedlaethol @Cymru i’w gwylio’n rhad ac am ddim a.y.b.

“Byddwn yn diweddaru cyn gynted â phosib.”

“Heb y gemau rhyngwladol, does dim Undeb Rygbi Cymru”

Alun Rhys Chivers

Roedd Gareth Charles wrth ei fodd yn sylwebu yn Gymraeg ar yr ornest rhwng Cymru a’r Crysau Duon, a gafodd ei dangos yn fyw ar Amazon

‘Ni fydd y Gymraeg yn cael ei heffeithio’ wrth ddarlledu’r gemau ar Amazon – Undeb Rygbi Cymru

Jacob Morris

Bydd yn rhaid i gefnogwyr dalu £7.99 y mis i Amazon Prime i wylio’r gyfres eleni gan ddewis opsiwn am sylwebaeth yn Gymraeg

‘Dylai holl gemau rhyngwladol Cymru gael eu dangos am ddim ar y teledu’

“Mae chwaraeon ar S4C yn aml yn rhoi mynediad i nifer o ddysgwyr Cymraeg at yr iaith Gymraeg , ond bydd hynny’n cael ei golli”

Amazon yn bygwth cystadlu yn erbyn sylwebaeth rygbi S4C, yn ôl adroddiadau

Mae adroddiadau o’r newydd y gallai gemau Cymru gael eu dangos yn ecsgliwsif ar Amazon

Amazon Prime a gemau rygbi’r hydref: “Trafodaethau ar y gweill,” medd S4C

Bydd Amazon Prime yn darlledu 17 allan o 20 o gemau’r hydref, ond does dim sicrwydd am sylwebaeth Gymraeg ar hyn o bryd