‘Ni fydd y Gymraeg yn cael ei heffeithio’ wrth i gyfres rygbi’r Hydref gael ei darlledu’n fyw ar Amazon yn lle S4C.

Dyna a ddywedodd Undeb Rygbi Cymru heddiw.

Wrth roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol Y Senedd, dywedodd prif weithredwr URC Steve Phillips y bydd y Gymraeg yn ganolog i ddarllediadau.

Bydd rhaid i gefnogwyr dalu i Amazon Prime i wylio’r gyfres yn fyw yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd ac yna ddewis opsiwn ar gyfer sylwebaeth Gymraeg.

Mae S4C wedi gwneud dêl gyda chwmni Amazon i ddarlledu uchafwyntiau’r gemau awr wedi’r chwiban olaf.

Angerddol

Wrth ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan, AoS Plaid Cymru am effaith y cytundeb gyda Amazon ar y Gymraeg, dywedodd Steve Phillips ei fod yn “falch” gyda’r pendefyniad.

“Mae’r ffaith fod Amazon wedi buddsoddi llawer o arian i greu’r sianel newydd hon yn rhywbeth rydyn ni’n falch iawn ohono,” meddai.

“Mae yna lot o siarad ar hyn o bryd dros yr iaith, ond rydym yn angerddol iawn dros y Gymraeg, ac fe wthio’n ni’n galed drosti, ac mae’n bwnc ni ellir dadlau yn ei gylch.

“Os nad yw darlledwyr yn gefnogol o’r iaith, dydyn ni ddim yn arwyddo unrhyw ddêl.”

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd prif weithredwr S4C Owen Evans wrth yr un pwyllgor nad oedd y sianel yn croesawu colli’r hawliau i ddarlledu gemau Cymru.

Risg

Wrth ymateb i gwestiynau gan aelodau fe ddywedodd Mr Evans, ei fod yn meddwl bod yr iaith Gymraeg a “sianeli fel S4C” yn wynebu “risg” o ganlyniad i’r penderfyniad.

“Fi yn credu bod ‘na risg i’r iaith a risg i sianel fel S4C ond hefyd yn fwyfwy i’r BBC a ITV sydd yn cystadlu am yr hawliau ‘ma”, meddai.

Ond mae Steve Phillips yn mynnu bydd yna “wastad lle i S4C” gyda’r sianel yn darlledu uchafbwyntiau yn unig a hynny awr wedi’r chwiban olaf.

“Rydyn ni wedi gwneud yn glir i’n holl bartneriaid Chwe Gwlad a darlledwyr bod angen darpariaeth Gymraeg ac rydyn ni’n ystyried S4C yn bartneriaid agos iawn gyda ni.”

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd yn addo i sicrhau bydd clybiau cymunedol yn cael dêl arbennig er mwyn sicrhau bod modd iddynt wylio’r gemau ar Amazon.

Mae Amazon Prime yn costio £7.99 y mis neu £79 am flwyddyn ond mae hefyd modd cael tanysgrifiad £5.99 y mis i wylio fideos yn unig

Yn arwain y tim cyflwyno yn ystod y gemau byw ar Amazon fydd Owain Gwynedd, gyda sylwebaeth gan Gareth Charles.

Fe fydd y cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru Shane Williams, Nicky Robinson, Gwyn Jones a Sioned Harries ynghyd â’r cyn-ddyfarnwr Prawf Nigel Owens hefyd yn ymuno â thim Amazon, ond yn rhan o gynnwys S4C hefyd.

Sara Elgan fydd y brif gyflwynydd ar raglenni S4C gyda Rhodri Gomer yn gohebu ar ochr y cae.

Fe fydd gemau Cymru yng nghyfres yr Hydref yn dechrau ar 30 Hydref, wrth fynd yn benben gyda Seland Newydd yn Stadiwm Principality.