Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol yr ymosodwr Joel Piroe yn dilyn ei berfformiad yn y fuddugoliaeth o 2-1 dros West Brom yn Stadiwm Swansea.com neithiwr (nos Fercher, Hydref 20).

Sgoriodd yr ymosodwr un gôl a chreu un arall wrth i’r Elyrch wyrdroi mantais o 1-0 i ennill o 2-1.

Sgoriodd Karlan Grant i’r ymwelwyr ar ôl 52 eiliad i’w rhoi nhw ar y blaen o’r gic gyntaf, ond gwellodd yr Elyrch yn sylweddol yn ystod y gêm, yn enwedig yn yr ail hanner.

Roedd yr Elyrch yn gyfartal pan darodd Jamie Paterson bêl hir i lwybr Piroe, a hwnnw’n rhwydo cyn creu’r ail i Paterson wrth daro’r bêl drwy goesau Kyle Bartley, cyn-amddiffynnwr canol yr Elyrch a tharo’r bêl i’r rhwyd.

Sgoriodd y ddau yn ystod y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd dros y penwythnos hefyd, wrth i’r Elyrch ennill o 3-0 i bentyrru’r pwysau ar Mick McCarthy, rheolwr yr Adar Gleision.

‘Ymateb anhygoel’

“Doedd y dechreuad ddim yn ddelfrydol ac fe siaradon ni â’r bois am bwysigrwydd dechrau’n dda yn erbyn tîm fel West Brom sydd â chryn dipyn o safon,” meddai Russell Martin.

“Roedd y ffordd wnaethon ni ymateb yn anhygoel, mewn gwirionedd.

“Chwaraeon ni’n dda iawn gyda chryn dipyn o ddwyster, yn enwedig yn yr ail hanner yn erbyn tîm sy’n anodd iawn i chwarae yn eu herbyn.

“Dw i’n credu ein bod ni’n haeddu ennill.

“Roedden ni eisiau ymateb i’r perfformiad yn y gêm ddarbi gydag un arall a diolch byth ein bod ni wedi gwneud hynny.

“Rydyn ni’n tynnu coes Joel fod angen iddo fe bwyllo o flaen y gôl, ond dydy e ddim yn teimlo unrhyw bwysau.

“Mae ganddo fe rinweddau’r holl chwaraewyr gorau ac mae’n anhygoel wir ar gyfer chwaraewr o’i oedran e.

“Pan mae e’n rhan [o’r chwarae], mae e ynghlwm wrth eiliadau mawr, a’r un fath o ran Jamie.

“Rydyn ni wedi dechrau’n araf ond mae’r perfformiadau wedi gwella ac yn y ddwy gêm ddiwethaf, rydyn ni wedi ychwanegu ansawdd a phwyll yn y traean olaf.

“Rydyn ni wedi cael dau ganlyniad a pherfformiad mawr.”