Mae Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, dan bwysau cynyddol yn dilyn seithfed colled o’r bron.
Collon nhw o 2-0 yn erbyn Fulham, sydd wedi codi i’r ail safle yn y Bencampwriaeth.
Sgoriodd Tom Cairney ar ôl 12 munud, a hynny wrth iddo fe ddychwelyd ar ôl absenoldeb o ddeg mis o ganlyniad i anaf.
Sgoriodd Aleksandar Mitrovic yr ail gôl i selio tynged yr Adar Gleision.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerdydd ar eu rhediad gwaethaf ers 1934, ac mae McCarthy yn cyfaddef fod ei swydd yn y fantol.
“Mae hyn yn ein gadael ni ar rediad ofnadwy o ganlyniadau,” meddai.
“Ac os yw pêl-droed yn parhau yn ôl ei harfer, rydyn ni’n gwybod beth sy’n digwydd.
“Alla i ddim gwneud unrhyw beth am hynny.
“Rydyn ni’n sicr wedi cael perfformiad gwell, a bydda i’n gwneud union yr un fath ar gyfer Middlesbrough oni bai fy mod yn clywed yn wahanol.
“Alla i ddim gwneud mwy na’r hyn dw i’n ei wneud, alla i ddim trio’n galetach nag yr ydw i.
“Rydyn ni’n rhoi popeth iddi y gallwn ni a byddwn ni’n ôl i mewn yn gwylio’r gêm.”
‘Peth cynnydd’
Er gwaetha’r canlyniad, mae Mick McCarthy yn mynnu bod y perfformiadau’n dechrau gwella.
“Roedd yn welliant sylweddol fel perfformiad,” meddai.
“Roedd y chwaraewyr yn hapusach, fel yr oeddwn i.
“Os ydyn ni’n perfformio fel yna yn erbyn timau eraill, byddwn ni’n cael canlyniadau.
“Does gen i ddim cwynion am y chwaraewyr, yn nhermau’r ymdrech a’r perfformiad.
“Ond dylen ni fod yn well ar y bêl.
“Does gen i ddim beirniadaeth ohonyn nhw o gwbl yn nhermau’r perfformiad.
“Ond gallwch chi barhau i ddweud hynny, ond rhaid i chi roi’r gorau i golli gemau.
“Gofynnwyd i fi dros y penwythnos a oeddwn i wedi colli’r ystafell newid, sy’n warthus.
“Mae heno’n dangos nad ydw i, yn sicr.
“Ond dw i’n teimlo’n wael oherwydd dw i ddim yn hoffi cael fy nghuro.”