Mae Clwb Pêl-droed Charlton Athletic wedi diswyddo cyn-reolwr Bangor, Nigel Adkins.

Roedd Adkins yn rheolwr ar Charlton am saith mis yn unig, a bu bron iddo arwain y tîm i’r gemau ail gyfle ar y cynnig cyntaf.

Ond maen nhw wedi canfod eu hunain yn safleoedd y gwymp ar ddechrau’r tymor hwn, gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 13 o gemau yn yr Adran Gyntaf.

Bydd ei gynorthwyydd Johnnie Jackson yn rheolwr dros dro, ac yn cael ei gynorthwyo gan Jason Euell, hyfforddwr y tîm cyntaf.

Roedd Adkins yn rheolwr ar glwb Bangor rhwng 1993 a 1996, ac fe enillon nhw’r gynghrair yn 1993-94 ac yn 1995-96.