Mae Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, yn benderfynol o gadw traed ei chwaraewyr ar y ddaear yn dilyn eu dechreuad gorau erioed i ymgyrch ragbrofol wrth geisio cyrraedd Cwpan y Byd.
Fis diwethaf, fe wnaethon nhw guro Kazakhstan o 6-0 ac Estonia o 1-0 yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2023 yn Awstralia a Seland Newydd.
Byddan nhw’n herio Slofenia nos fory (nos Wener, Hydref 22) yng ngêm swyddogol rhif 200 y tîm cenedlaethol, cyn herio Estonia yng Nghaerdydd nos Fawrth (Hydref 26).
“Yn ystod y ffenest fis Medi, mae’n debyg fod yno nerfau oherwydd roedden ni’n gwybod ein potensial ond doedden ni ddim wir wedi cyflawni hynny mewn gêm gymhwyso,” meddai.
“Nawr mae gyda ni’r ddwy fuddugoliaeth yna y tu ôl i ni, rydyn ni’n mynd i mewn i’r drydedd gêm yn gwybod beth allwn ni ei wneud, a pha fath o dîm rydyn ni eisiau bod wrth symud ymlaen.
“Mae’r momentwm yn bwysig ond does dim angen i ni beidio â phwyllo.
“Does ond rhaid i ni ganolbwyntio ar y ddwy gêm yma ac asesu lle’r ydyn ni o’r fan honno.
“Roedden ni eisiau’r ddwy gêm hynny ar y dechrau.
“Un peth yw cael y gemau hynny, rhaid i’r chwaraewyr gymryd y clod am y canlyniadau hynny, ond i ni mae’n fater o adeiladu ar y ddau berfformiad yna ac eisiau cystadlu a chymhwyso ar gyfer twrnamaint mawr.
“Rydyn ni’n gynnar iawn yn ein taith pedair blynedd, ond y nod yw parhau i wella gyda phob gêm.”
Ieunctid yw’r ffordd ymlaen
“Rydyn ni wedi bod yn adeiladu dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n fater o’n hieuenctid yn dod drwodd nawr,” meddai’r capten Sophie Ingle, sydd wedi ymddangos mewn mwy na hanner y gemau yn hanes tîm Cymru.
Bydd hi’n ennill cap rhif 109 nos Wener.
“Mae rhai o’n merched yn anhygoel yn ifanc iawn oherwydd maen nhw mewn amgylchfyd da yn eu clybiau.
“Maen nhw’n dod i mewn i’n tîm cenedlaethol ac maen nhw bron iawn yn barod i fod yn chwaraewr sy’n dechrau yn 18 neu’n 19 oed.
“Mae’n anhygoel i ni oherwydd mae gyda ni ragor o opsiynau a dyfnder o fewn y garfan ac mae hynny’n golygu y gallwn ni wthio yn ein blaenau a chymhwyso.”