Bydd y canolwr Scott Williams yn dychwelyd o anaf i’w lygad i fod yn gapten ar y Scarlets yn erbyn Benetton yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Wener (Hydref 22).

Mae’r Archentwr Tomas Lezana yn colli ei le ar ôl dioddef anaf yn ei gêm gyntaf i’r rhanbarth y penwythnos diwethaf.

Gyda deg chwaraewr ar ddyletswydd ryngwladol gyda Chymru, dyw Dwayne Peel ddim ond yn cadw pump o’r chwaraewyr wnaeth golli o 50-15 yn erbyn Leinster yn y tîm.

Un o’r rheiny ydi Aaron Shingler, sy’n gwneud ei 200fed ymddangosiad i’r Scarlets.

Daw Shaun Evans i mewn i gymryd lle Lezana, gan ymuno â Shingler a Blade Thompson yn y rheng ôl.

Yr unig un arall sydd yn cadw ei le ydi Sam Lousi, fydd â Jac Price fel partner newydd yn yr ail reng.

Bydd y Scarlets yn gobeithio am ymateb ar ôl dwy golled drom yn olynol yn erbyn timau o Iwerddon – ar ôl colli p 43-13 gartref yn erbyn Munster hefyd – ac yn chwilio am ail fuddugoliaeth yn y gynghrair y tymor hwn.

Mae Benetton wedi ennill dwy a cholli dwy yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, gan guro’r Gweilch o 26-29 mewn gêm eithriadol o gyffrous y penwythnos diwethaf.

Tîm y Scarlets: Ioan Nicholas; Ryan Conbeer, Steff Hughes, Scott Williams (capten), Steff Evans; Dan Jones, Dane Blacker; Rob Evans, Marc Jones, Samson Lee, Sam Lousi, Jac Price, Aaron Shingler, Shaun Evans, Blade Thomson

Eilyddion: Daf Hughes, Phil Price, Javan Sebastian, Lloyd Ashley, Iestyn Rees, Luke Davies, Angus O’Brien, Tom Rogers.