Mae Josh Adams wedi dweud bod y cyfle i chwarae Seland Newydd yng ngêm gyntaf Cyfres yr Hydref “yn gyffrous”.

Byddan nhw’n herio’r Crysau Duon yn ddydd Sadwrn, 30 Hydref, gyda Stadiwm y Principality yn llawn dop.

Dydy Cymru heb eu curo nhw ers 1953, ond oherwydd absenoldebau, bydd hi’n gêm andros o anodd yn erbyn enillwyr Pencampwriaeth Rygbi hemisffer y de eleni.

Bydd y chwaraewyr o glybiau Lloegr yn methu’r gêm, gan gynnwys sêr y Llewod Dan Biggar, Louis Rees-Zammit a Taulupe Faletau, oherwydd bod y gêm yn digwydd tu allan i’r ffenestr rygbi rhyngwladol.

Mae chwaraewyr profiadol fel George North, Leigh Halfpenny, Justin Tipuric a Josh Navidi wedi eu hepgor o’r garfan oherwydd anafiadau.

“Pa her sydd yn well?”

Mae Josh Adams yn awchu am yr her y bydd Seland Newydd yn ei chynnig.

“Gyda’r heriau mwyaf daw’r gwobrau mwyaf – pam ddim meddwl amdano fel yna?” meddai’r asgellwr.

“Mae pawb a gafodd eu dewis yn ddigon da yn llygaid yr hyfforddwyr i fod yn chwaraewyr rygbi rhyngwladol.

“Pa her sydd yn well i rywun sydd erioed wedi wynebu un o wledydd mawr hemisffer y de na wynebu’r Crysau Duon?

“Pan gewch chi’r cyfle hwnnw – does dim bwys os ydych chi wedi chwarae 150 o gemau fel [Alun Wyn Jones] neu gwpl yn achos rhai o’r bechgyn – fyddwch chi’n barod yn erbyn y Crysau Duon.

“Dyna ein meddylfryd. Mae’n rhaid i ni droi fyny fel tîm. Mae’n her enfawr, ond un gyffrous – a dw i’n gwybod fod yr egni yna gan y garfan i gyd.

Record siomedig

Er bod Cymru wedi ennill cystadleuaeth y Chwe Gwlad chwe gwaith ers 2000, dydy eu record yng Nghyfresi’r Hydref ddim yn llachar.

Ers y Gamp Lawn yn 2005, maen nhw ond wedi curo timau mawrion hemisffer y de – Awstralia, De Affrica a Seland Newydd – naw gwaith mewn 53 gêm.

Byddan nhw’n herio’r tair gwlad yna, yn ogystal â Ffiji, yn y Gyfres eleni.

“Mae’r Chwe Gwlad yn gystadleuaeth anhygoel ynddo’i hun, ac mae gennyn ni record dda yn y gystadleuaeth honno,” meddai Josh Adams.

“Ond byddai chwarae i safon uchel yn yr Hydref, pan rydyn ni yn erbyn y timau mawr hyn, a pharhau i ennill yn ddatganiad aruthrol.

“Rwy’n credu bod pedair ymgyrch cyn Cwpan y Byd 2023 yn Ffrainc, felly mae angen i bob un fod yn well na’r un ddiwethaf.”

Cyhoeddi carfan rygbi Cymru ar gyfer Gemau’r Hydref

Bydd Christ Tshiunza, sy’n 19 oed a’n chwarae i Exeter Chiefs, yn ymddangos am y tro cyntaf