Mae tîm rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu carfan ar gyfer gemau rhyngwladol yr Hydref.

Yr enw sy’n sefyll allan yw Christ Tshiunza, y clo 19 oed sydd yn chwarae i Exeter Chiefs, ac yn un i gadw llygad barcud arno yn y dyfodol.

Mae Tshiunza o deulu Ffrengig, ac roedd yn byw yn y Congo nes ei fod yn chwech oed, cyn symud i Loegr, ac yna i Gymru yn 2010.

Dydy o ond yn chwarae rygbi o ddifri ers pum mlynedd, ac fe chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r Chiefs ar ddechrau’r tymor hwn.

Fe hefyd yw un o sêr diweddaraf Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd yng Nghaerdydd – sydd â Sam Warburton, Geraint Thomas, a Gareth Bale ymhlith eu cyn-ddisgyblion.

Enwau cyfarwydd

Mae lle i Thomas Young yn y garfan unwaith eto, ar ôl iddo arwyddo cytundeb i ymuno â Chaerdydd o Wasps y tymor nesaf – caiff felly ei esgusodi o reol 60-cap Undeb Rygbi Cymru.

Fe gyflwynodd yr Undeb y polisi yn 2017 i atal chwaraewyr sydd â llai na 60 cap ac yn chwarae tu allan i Gymru rhag ymddangos i’r tîm cenedlaethol.

Ond maen nhw’n tueddu i lacio ar y rheol os yw chwaraewr yn arwyddo cytundeb i ddychwelyd i un o ranbarthau Cymru erbyn y tymor dilynol.

Rhys Priestland

Bydd Ellis Jenkins, Rhys Priestland a Gareth Anscombe hefyd yn dychwelyd ar ôl cael eu hepgor am gyfnodau hir o amser.

WillGriff John, prop y Scarlets, yw’r unig chwaraewr arall di-gap sydd yn ymddangos yng ngharfan Wayne Pivac.

Bydd rhai enwau cyfarwydd fel Justin Tipuric, George North, Leigh Halfpenny a Josh Navidi yn methu gemau’r Hydref oherwydd anafiadau.

Rheolau rygbi Lloegr

Mae rheolau Undeb Rygbi Lloegr yn rhwystro unrhyw un sy’n chwarae yn eu cynghreiriau rhag chwarae dros eu gwlad tu allan i’r ffenestr rygbi rhyngwladol, sy’n golygu bydd nifer o chwaraewyr yn colli allan yn erbyn Seland Newydd.

Bydd Christ Tshiunza, Thomas Young, Taulupe Faletau, Dan Biggar, Callum Sheedy, Nick Tompkins, a Louis Rees-Zammit yn absennol o’r gêm honno ar 30 Hydref – os na fydd y clybiau’n rhoi caniatâd arbennig.

Taulupe Faletau – un o’r chwaraewyr fydd yn colli gêm Seland Newydd os na cheir caniatâd arbennig

Er hynny, byddan nhw’n rhydd i chwarae yn erbyn De Affrica (6 Tachwedd), Ffiji (14 Tachwedd), ac Awstralia (20 Tachwedd).

Y tîm yn llawn

Blaenwyr: Wyn Jones (Scarlets), Rhodri Jones (Ospreys), Rhys Carre (Caerdydd), Ken Owens (Scarlets), Elliot Dee (Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Dillon Lewis (Caerdydd), WillGriff John (Scarlets), Tomas Francis (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Adam Beard (Gweilch), Will Rowlands (Dreigiau), Ben Carter (Dreigiau), Seb Davies (Caerdydd), Christ Tshiunza (Exeter Chiefs), Ross Moriarty (Dreigiau), Thomas Young (Wasps), Taine Basham (Dreigiau), Ellis Jenkins (Caerdydd), Aaron Wainwright (Dreigiau), Taulupe Faletau (Caerfaddon).

Cefnwyr: Tomos Williams (Caerdydd), Gareth Davies (Scarlets), Kieran Hardy (Scarlets), Gareth Anscombe (Gweilch), Rhys Priestland (Caerdydd), Dan Biggar (Northampton), Callum Sheedy (Bristol Bears), Johnny Williams (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Nick Tompkins (Saracens), Willis Halaholo (Caerdydd), Ben Thomas (Caerdydd), Josh Adams (Caerdydd), Owen Lane (Caerdydd), Louis Rees-Zammit (Caerloyw), Johnny McNicholl (Scarlets), Liam Williams (Scarlets).

Gemau Cyfres yr Hydref 

Bydd holl gemau Cymru yn yr Hydref yn Stadiwm y Principality.

Cymru v Seland Newydd – Dydd Sadwrn, 30 Hydref, 17:15

Cymru v De Affrica – Dydd Sadwrn, 6 Tachwedd, 17:30

Cymru v Ffiji – Dydd Sul, 14 Tachwedd, 15:15

Cymru v Awstralia – Dydd Sadwrn, 20 Tachwedd 2021, 17:30

Bydd S4C ond yn dangos uchafbwyntiau o’r gemau, wedi i Amazon Prime wrthod ildio’r hawliau darlledu byw.

S4C yn dangos uchafbwyntiau o gemau Cymru’n unig yng Nghyfres yr Hydref

O ganlyniad i gytundeb gyda deiliaid yr hawliau darlledu, Amazon Prime, bydd uchafbwyntiau estynedig Cymraeg o bob gêm ar S4C