Mae John Hartson wedi tynnu blewyn o drwyn newyddiadurwr a feirniadodd safon ei Gymraeg.

Daeth yr ymateb diweddaraf wrth iddo ef a’i gyd-sylwebydd, Gwennan Harries, gael eu cyflwyno gan Dylan Ebenezer ar ddechrau rhaglen Sgorio Cymru v Estonia neithiwr (11 Hydref).

Wrth dynnu coes, dywedodd Dylan Ebenezer yn gellewirus: “Croeso mawr atom ni. ‘Welcome, John!’

Yn wen o glust i glust dywedodd Hartson, tra’n pwyntio ei fys yn ffug-fygythiol at Ebenezer: “Hei! bod yn ofalus, reit, dim gormod o ‘Wenglish’ heno!”

Atebodd Ebenezer: “Dim heno! Dwi’n addo!”

Meddai Hartson (a’i dafod yn ei foch): “Watsiad di dy hunan!” tra ychwanegodd Ebenezer: “Hyfryd cael ti ar y rhaglen, fel arfer, John.”

Fe dderbyniodd Hartson, cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, a chwaraeodd i glybiau fel Celtic, Arsenal, Luton a West Ham, sylwadau beirniadol am safon ei Gymraeg gan ohebydd o’r Western Mail, Rob Harries, yn ystod darllediad gêm Cymru v Y Weriniaeth Tsiec wythnos diwethaf.

Yn ei drydar, ysgrifennodd Harries: “Literally half the words John Hartson uses on S4C are English. Can’t they get a Welsh speaker?”

Ond doedd Hartson ddim i weld yn poeni am y feirniadaeth honno, wrth iddo barhau i sylwebu yn ei ffordd arferol ar y rhaglen nos Lun.

Mae miloedd o bobol wedi dangos eu cefnogaeth i Hartson a gafodd ei fagu ar stad dai cyngor Trallwn, Abertawe – ar ei gyfrif Trydar.

 

Roedd John Hartson hefyd yn ymddangos ar raglen Sgwrs dan y Lloer ar S4C neithiwr, lle bu’n siarad am y cyfleoedd mae wedi eu cael drwy’r Gymraeg.

“Fi’n teimlo’n blessed, achos oedd Mam wedi hala fi i ysgol Gymraeg,” meddai ar y rhaglen.

“Nawr, dw i’n cael rhywbeth allan o’r ffaith fy mod i’n siarad Cymraeg.

“Yr holl bobol dw i wedi gallu cwrdd â drwy weithio ar S4C – pobol o Tinopolis, pobol o Heno – a’r holl sioeau dw i wedi gwneud dros y blynyddoedd yn Gymraeg.

“Mae’n beth da fy mod i ddim jyst wedi gwastraffu fe.”

Soniodd Hartson ar y rhaglen hefyd am ei frwydrau llwyddiannus i orchfygu cancr o’r ceilliau a ymledodd i’w ymennydd a’i frwydr yn erbyn bod yn gaeth i gamblo.

John Hartson: “Balch iawn” i roi popeth wrth siarad Cymraeg

Gwern ab Arwel

Cafodd cyn-ymosodwr Cymru feirnidaeth gan un gohebydd am ddefnyddio geiriau Saesneg wrth siarad Cymraeg