Bydd ffilm wedi ei hanimeiddio sy’n adrodd hanes Tryweryn am gael ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd ddiwedd Hydref.

Mae ffilm Osian Roberts, sy’n dod o Lannerchymedd ar Ynys Môn, wedi’i dewis i ffurfio rhan o gategori ‘Ffilmiau Cymru’ yn yr ŵyl.

Bu Osian Roberts yn astudio cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai, Bangor, cyn mynd yn ei flaen i astudio BA Animeiddio ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion.

Hon yw ei ffilm broffesiynol gyntaf, ac mae’r ffaith bod hanes boddi pentref Capel Celyn yn cael ei adrodd mewn gŵyl ryngwladol yn “gyfle i gael y stori allan” ymysg cynulleidfa ehangach, meddai.

Sefydlwyd yr ŵyl yn 2016, ac mae hi yn gwahodd ceisiadau ac yn denu gwneuthurwyr ffilmiau o bob cwr o’r byd.

“Swreal”

Yn ôl Osian Roberts, mae cael dangos y ffilm Tryweryn yn yr ŵyl, yn golygu bod gwerth i’r “holl waith caled”.

“Fe wnes i weithio’n rili caled ar y ffilm dros y pandemig, ac roeddwn i’n gallu rhoi’r oriau mewn achos fy mod i’n gwario lot o amser yn y tŷ,” meddai Osian Roberts wrth golwg360.

“Fe wnes i weithio ar y ffilm ar ben fy hun, yr animeiddio ac ati, ac wedyn ges i rywun i helpu fi efo’r gerddoriaeth.

“Dw i jyst yn rili balch ei fod wedi cael ei ddewis, mae o bach yn swreal â dweud y gwir.”

 Osian Roberts

Cafodd y ffilm ei datblygu fel rhan o’i gwrs gradd pan oedd yn ei drydedd flwyddyn yn y brifysgol.

“Y mwy a mwy roeddwn i wedi bod ym Manceinion, y mwy a mwy roeddwn i’n mynd mewn i hanes Cymru, ac yn meddwl bod gen i hiraeth am adra,” meddai.

“Felly roeddwn i’n gwneud ymchwil mewn i hanes Cymru, ac roeddwn i’n gwybod am hanes Capel Celyn cynt ond fe wnes i benderfynu mai dyma’r stori fyswn i’n licio gwneud ffilm amdani.

“Mae pawb yn gwybod am stori Capel Celyn, ond dyda ni ddim yn gwybod y manylion, felly roeddwn i’n teimlo y bysa hi’n ddifyr iawn mynd mewn i hynna.

“Fe wnes i benderfynu creu’r ffilm yma am yr hanes, a rhedeg efo’r syniad wedyn.”

“Cynulleidfa eang”

Roedd Osian Roberts am i bobol tu hwnt i Gymru glywed am yr hanes drwy ei ffilm.

“Roeddwn i eisiau i gynulleidfa eang allu clywed y stori, achos yn y wlad yma mae’r rhan fwyaf o bobol yn gwybod am y stori,” esboniodd.

“Dros y bordor yn Lloegr, fe wnes i sylwi pan roeddwn i’n pitcho’r syniad yn y brifysgol bod yna ddim llawer o bobol wedi clywed y stori.

“Maen nhw’n gwybod am y wal, ond ddim am y stori.”

Mae’r ŵyl yn cael ei noddi gan Michael Sheen a Matthew Rhys, Marc Zicree, sy’n ysgrifennwr a chynhyrchydd, a’r actorion Bollywood Emraan Hashmi a Jaqueline Fernandez.

“Yn enwedig efo hi’n mynd i’r ŵyl rŵan, mae o’n gyfle mawr i gael y stori allan,” meddai Osian Roberts.

Mae hanes Tryweryn wedi ysbrydoli ffilm arall hefyd, The Welshman, a oedd yn adrodd hanes Owain Williams a’i ran yn yr ymgyrch i fomio safle’r argae ger y Bala.

Ac ar ei albwm newydd, mae Tecwyn Ifan yn canu am y criw a fu’n ailbeintio wal Tryweryn yng Ngheredigion pan gafodd ei difrodi, yn cynnig neges o obaith.

“Reit syml”

Dechreuodd diddordeb Osian Roberts mewn animeiddio tra’r oedd yn y chweched dosbarth, ond dechreuodd y diddordeb o ddifrif pan aeth i Goleg Menai i astudio Celf.

“Yn y lle cyntaf, roeddwn i eisiau gwneud 3D animation – stwff fatha Pixar – ond fe wnes i benderfynu toedd hwnnw ddim i fi,” meddai.

“Mae’r steil dw i’n gweithio ynddo rŵan, mae’r steil reit syml. Dw i ddim yn meddwl ’mod i’n wych am animeiddio, dw i’m yn gwneud yn brilliant, ond eto mae’n rhywbeth dw i’n gallu ei wneud… dw i’n licio’r steil dw i’n gweithio ynddo ar y funud.

“Dw i’n rili hapus efo sut mae o wedi mynd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhannu’r ffilm.

“Mae pawb wedi bod mor ffeind, yn enwedig ar Twitter.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar-lein eleni, rhwng 29 a 30 Hydref, yn sgil Covid.