Mae Gŵyl Sŵn yn dychwelyd i Gaerdydd y penwythnos hwn (15 i 17 Hydref).
Gan ddechrau heno (15 Hydref), bydd degau o artistiaid yn perfformio yn yr ŵyl gan gynnwys Adwaith, Hyll, SYBS, Papur Wal, Pys Melyn, Melin Melyn, Hana Lily, ac Eädyth.
Mae’r lein-yp hefyd yn cynnwys Thallo, a fydd yn chwarae ddydd Sul.
Ac yn ôl y gantores o Ddyffryn Nantlle, mae’r ŵyl yn gyfle i roi “llwyfan” i artistiaid bach Cymraeg.
Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 2007 gan y cyflwynydd radio Huw Stephens a’r hyrwyddwr o Gaerdydd, John Rostron.
Erbyn hyn, Clwb Ifor Bach sydd yng ngofal yr ŵyl, ac mae Elin Edwards, neu Thallo, yn edrych ymlaen at ddychwelyd yno wedi’r pandemig.
Canu o flaen cynulleidfa
Hwn fydd y tro cyntaf iddi fynychu a pherfformio yn Sŵn, sy’n cefnogi artistiaid newydd, a dywedodd wrth golwg360 ei bod hi’n “edrych ymlaen”, ac y bydd yn brofiad “hollol newydd”.
“Tro dwytha i fi chwarae efo band fi yng Nghlwb Ifor Bach oedd jyst cyn y pandemig, so fydd o’n rili, rili braf cael mynd yn ôl eto,” meddai Elin Edwards.
“Dw i’n rili joio cael excuse i chwarae efo’r band, dyna dw i’n ei fwynhau fwyaf.
“Dw i wedi bod yn gwneud ychydig bach o gigs o flaen cynulleidfa ers i bethau ddod yn ôl, a dydi o dal ddim rili wedi teimlo’n normal eto.
“Mae o dal yn syrpreis bach neis pan ti’n clywed pobol yn cymeradwyo ar y diwedd, mae o fel: ‘Gosh, mae yna bobol yma ac maen nhw’n mwynhau!’
“Mae o mor wahanol i’r sesiynau live streams lle ti jyst yn canu a does yna ddim perfformiad yn rhan ohono fo, does yna ddim yr interaction yna efo pobol sy’n gwylio.
“Dw i’n mynd i edrych ymlaen i berfformio’r caneuon yma mewn ffordd ti ond yn gallu gwneud o flaen cynulleidfa, sy’n rili special.”
“Llwyfan”
Yn ôl Elin Edwards, sy’n rhannu ei hamser rhwng Llundain a Chymru, mae gŵyl Sŵn yn “gyfle gwych” i artistiaid Cymraeg gymysgu â’i gilydd, ac mae hi’n edrych ymlaen at weld Sister Lucy yn perfformio.
Daw Sister Lucy, neu Abi Sinclair, o Ddyfnaint yn wreiddiol ond mae hi bellach yn byw yn ne ddwyrain Llundain ac yn gantores-gyfansoddwraig sy’n sgrifennu caneuon sy’n gymysgedd o ganu gwlad a grunge.
“Mae hi’n un o fy ffrindiau ac mae ganddi fand arbennig. Hi ydi un o fy hoff artistiaid o’r flwyddyn yma,” meddai Elin Edwards.
“Fydd yna bobol o’r diwydiant cerddorol Cymraeg sydd heb gymysgu ers mor hir.
“Fydd pobol yn gallu cael cyfleoedd i drafod pethau, ac ella gwneud connections newydd.
“Mae o mor dda i artistiaid bach fel fi, ella fydd rhywun sydd heb glywed amdana i yn cerdded mewn i Clwb ac yn gweld fi am y tro cyntaf.
“Mewn lot o lefydd eraill, ti ddim rili efo’r cyfle yna so dw i’n meddwl bod SŴN yn wych i roi llwyfan, yn llythrennol, i artistiaid Cymraeg fel fi.”
Mae Papur Wal yn rhan o arlwy Gŵyl Sŵn hefyd.