A hithau yn 70 mlynedd ers ffurfio Parc Cenedlaethol Eryri eleni, bydd cyfres arbennig yn cael ei dangos ar S4C sy’n portreadu’r ardal a’i phobol.

Ers deunaw mis mae camerâu Cwmni Da wedi bod yn dilyn staff a thrigolion y Parc, gan “edrych ar yr heriau a’r bygythiadau mae Eryri yn ei wynebu” tra hefyd yn dathlu’r pen-blwydd a’r Parc.

Mae’r gyfres wedi cael ei rhannu yn bedair rhaglen, gyda’r gyntaf yn cael ei darlledu nos Fawrth nesaf (19 Hydref), am naw o’r gloch.

‘Ffocws ar y bobol’

“Rydan ni’n dilyn y staff dipyn, ond hefyd roedden ni eisiau dangos y trigolion, y bobol sy’n gweithio o fewn Eryri a’r bobol sy’n hamddena yma,” meddai Elin Tomos, Is-Gynhyrchydd y rhaglen wrth golwg360.

“Mae’r ffocws yn bendant ar y bobol.

“Y syniad ydi ein bod ni’n cael yr hanes yn gynnil drwy’r bobol, a hefyd wrth ddathlu’r pen-blwydd yn 70 ein bod ni’n edrych ar ein hunain ac yn edrych i’r dyfodol a meddwl ‘beth ydi Eryri rŵan’.

“Roedden ni’n edrych ar sut mae’r parc yn gwasanaethu’r bobol a sut mae’r bobol yn gwasanaethu’r parc a diogelu Eryri mewn ffordd.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n neis mai’r bobol sy’n gyrru’r naratif, eu straeon nhw a’u profiadau nhw.

“Rydan ni’n ei glywed o from the horse’s mouth fel petai.”

“Ehangder y Parc”

“Un peth oedd yn bwysig i ni yn ystod y cyfnod ffilmio oedd dangos ehangder y parc achos mae o’n mynd o Abergwyngregyn i lawr i Aberdyfi – dros 800 milltir sgwâr,” meddai Elin Tomos.

“Roedden ni eisiau dangos bod yno fwy i Eryri na dim ond y Wyddfa, a dydy Llanberis i gyd ddim hyd yn oed yn y parc i ddechrau efo’i – o’r Victoria Hotel sydd yn y Parc.

“Rydan ni’n dangos bod llefydd fel Dolgellau yn y Parc, mae Llanuwchllyn yn y Parc, Cadair Idris, mae gen ti’r môr.

“Dw i’n meddwl bod hynna yn bwysig i ni, yn hytrach na chanolbwyntio ar ardal y Wyddfa.

“Dangos yr amrywiaeth o gymunedau a thirweddau a phobol.”

“Heriau”

Dywed Elin Tomos bod y Parc wedi wynebu’r blynyddoedd prysuraf a mwyaf heriol yn ei hanes yn ystod y pandemig.

“Mae’r rhaglen yn bortread o sut flwyddyn mae Eryri wedi ei gael mewn ffordd, ac edrych hefyd ar sut rydan ni’n mynd i ddatblygu yn y dyfodol, sut rydan ni’n mynd i ddod allan o Covid.

“Mae’r Parc wedi gorfod addasu, mae’n debyg eu bod nhw wedi cael y ddau haf prysuraf maen nhw erioed wedi’u cael.

“Felly dydy o ddim jyst i wneud efo dangos pob dim sy’n neis am y Parc, rydan ni hefyd yn edrych ar yr heriau a’r bygythiadau mae Eryri yn ei wynebu.

“Boed hynny yn newid hinsawdd, yr argyfwng tai, neu dwf twristiaeth yn yr ardal.

“Dydan ni ddim am drio dangos bod bob dim yn grêt a dw i’n meddwl  bod hynna yn bwysig.

“Dw i’n gobeithio bod o’n bortread realistig o sut le mae Eryri wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf yma.”

“Cymunedol”

“Wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen, rydan ni wedi cael mwy o gyfle i roi sylw i bethau cymunedol wrth i gyfyngiadau godi ac ati.

“Buon ni’n edrych ar rasys mynydd, beth mae ysgolion cynradd yn ei wneud a sut berthynas sydd ganddyn nhw efo’r awdurdod.

“Mae rhaglen tri a phedwar yn teimlo’n wahanol iawn i raglenni un a dau oherwydd bod yno fwy o bethau cyhoeddus yn digwydd a bod pobol yn cael ymgynnull ac ati felly roedd hynna yn neis.”