‘Thallo’ yw enw perfformio Elin Edwards, y gantores 25 oed a gafodd ei magu ym Mhenygroes, Gwynedd, cyn troi am Lundain i fireinio ei chrefft…. 

Ers faint ydach chi’n creu cerddoriaeth?

Ers pan oeddwn i’n tua 15 oed pan wnes i ddechrau addoli cerddoriaeth canwr-gyfansoddwr o’r enw John Mayer… roeddwn i eisiau copïo bob dim roedd o’n wneud!

Doeddwn i methu diodde’ canu ar y pryd, a doeddwn i ddim eisiau i neb glywed fy llais.

Ond erbyn hyn, ia… dw i’n canu, a dw i wedi dysgu i gael hunaniaeth gerddorol fy hun, yn lle copïo pobol eraill!

Oeddech chi’n gerddorol cyn troi at gyfansoddi caneuon pop?

Wnes i ddechrau cael gwersi clarinet pan oeddwn i’n saith oed, ac wedyn gwersi piano a gitâr.

Felly roeddwn i wedi dysgu cerddoriaeth glasurol cyn dechrau gyda’r pop.

Wedyn fe es i i Golsdmiths [yn Llundain] i astudio Cerddoriaeth Boblogaidd.

Sut beth yw eich miwsig?

Cerddoriaeth amgen efo lot o elfennau jazzy.

Mae’r jazz yn dod o’r gwersi piano – roeddwn i wastad yn dysgu darnau clasurol, ac wedyn fel rhyw fath o wobr am hynny fyswn i’n cael dysgu jazz. Ac roeddwn i wir yn mwynhau.

Ac aeth y jazz fewn i fy mhen i bryd hynny, ac mae o’n dod allan tra dw i’n cyfansoddi rŵan.

Am be’ mae eich cân newydd ‘Mêl’?

Yr ysbrydoliaeth ydy pan mae rhywun yn ofni sefyllfa sydd yn gallu torri calon rhywun, tra ar yr un pryd ddim yn gwneud rhyw lawer i wrthsefyll temtasiwn.

Felly ofni bod rhywbeth am droi yn sur, ond mynd a’i wneud o beth bynnag.

Mae o’n seiliedig ar brofiad personol…

Pwy yw eich arwyr cerddorol?

Fy hoff fand ydy Big Thief. Dw i’n obsesd.

Hefyd rydw i’n licio Andy Shauf, Snowpoet a Sufjan Stevens.

Yn Gymraeg wedyn, rydw i’n hoffi Gwenno, Ynys, Ani Glass a Georgia Ruth.

Faint o hwb yw cael cyhoeddi’r sengl newydd gydag Yws Gwynedd ar Label Côsh?

Mae o’n grêt!

Dw i erioed wedi cael neb y tu ôl i fi o’r blaen, ac mae’r teimlad yna o gael rhywun yna yn annog, hyrwyddo, a gwneud i mi deimlo fel bo fi ddim ar ben fy hun efo hyn, yn wych.

Ac mae Yws yn berson mor glên hefyd.

Beth yw eich atgof cynta’?

Fy chwaer fawr Gwenno yn dysgu fi sut i ddianc allan o’r cot!

Roedden ni yn reit ddireudus, felly, ie… sori i mam a dad!

Sut brofiad oedd symud o gefn gwlad Gwynedd i astudio yn Llundain?

Sioc i’r system ar y dechrau. Doedd Saesneg fi ddim yn dda iawn, neb yn deall yr acen!

Hefyd, fel cerddor, roeddwn i yn teimlo yn eitha’ bach ac anobeithiol – achos roedd pawb arall yn y ddinas yn lot mwy profiadol.

Wnaeth o gymryd amser hir i setlo fewn, ond yn fuan wedyn roeddwn i wrth fy modd yn cael bod yn annibynnol a dod i adnabod ffrindiau-am-byth yn y ddinas.

Ac mae Llundain mor, mor dda ar gyfer cerddoriaeth a gigs a diwylliant.

Beth yw eich ofn mwya’?

Bod yn sownd mewn swydd sy’n fy ngwneud i’n ddigalon.

Mae hi’n anodd ffeindio’r swydd iawn ar gyfer cefnogi gyrfa gerddorol…

Dw i wedi gwneud cymaint o swyddi digalon!

Y gwaethaf oedd gweithio mewn swyddfa cwmni rhentu ceir, yn gorfod ffonio pobol fyny i adael iddyn nhw wybod eu bod nhw wedi cael tocyn parcio…

Roedd rhai pobol yn flin!

Sut gyfnod clo fuodd hi hyd yma?

Dw i wedi bod yn chwarae o gwmpas efo ffyrdd o gynhyrchu cerddoriaeth, a dysgu lot.

Hefyd dw i wedi bod yn rhoi gwersi piano ar-lein, a gymrodd hi ychydig bach o amser i arfer efo fo.

Ac yn y mis diwetha’ rydw i wedi ffilmio fideo i ‘Mêl’ ac mae’r caneuon yma yn gallu dod allan, o’r diwedd!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i ddim wedi gallu cadw yn heini achos dw i’n dioddef o boen cronig yn fy mhen-gliniau ers blwyddyn.

Ond dw i’n gobeithio gallu dod nôl ar fy nhraed yn fuan.

Beth sy’n eich gwylltio?

Tories!

Pobol afiach!

Tydyn nhw ddim yn gyfeillion i neb heblaw pobol gyfoethog.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Mae hyn yn mynd i swnio yn lame, ond dw i wir yn methu teulu a ffrindiau gymaint ar y funud.

Fyswn i’n gwadd nhw draw am bryd o fwyd Mediterranean a lot o win coch.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Www, wna i ddweud yn LLE ges i’r sws orau… wrth orwedd ynghanol grug blodeuog, dan awyr las braf o Haf ar ben Mynydd Mawr [ger Penygroes].

Roedd o’n teimlo fel gorwedd ar y cymylau.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Mynadd!

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Rydw i’n hoffi gwneud gwisg fy hun bob tro.

Dw i wedi bod yn Spiderman, Avatar, y blaidd o Red Riding Hood, zombie, tylluan…

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Fues i ar brofiad gwaith mewn safari park, ac un tro roeddwn i’n helpu allan mewn sioe morloi.

A job fi oedd gafael mewn bwced o bysgod a’u taflu at y morloi.

Ac roeddwn i’n meddwl: ‘Mae’r morloi yn dal y pysgod yn rhy hawdd. Dw i am luchio ‘sgodyn mor galed ac mor uchel ag y medra i’.

Ond yn lle mynd fyny i’r awyr, aeth y ‘sgodyn ar draws, fel frizbee, a peltio hogan fach ar draws ei gwyneb.

A dw i erioed wedi lluchio rhywbeth mor galed… roeddwn i’n mortified!

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Pan oeddwn i’n fyfyrwraig wnaethon ni ffitio 200 o bobol fewn i’r tŷ, a rywun yn Djio yn y basement.

Lot o hwyl, ond… wnaeth yna rywun ddyrnu twll yn y to, a wnaeth ffenestr stafell molchi dorri, a dw i’n meddwl bod yna dân hefyd.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Gwin coch adra, a jin a tonic allan.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Dw i really angen sbectol i weld, ond dw i ddim yn hoffi nhw.

Felly dw i fel arfer yn mynd o gwmpas yn hanner dall yn gesho beth sydd o gwmpas…

Oes, mae gen i contact lenses. Ond dw i ddim yn licio gwisgo nhw am yn rhy hir.