Er ei fod yn gweithio mewn ysbyty yn Lloegr, mae Dr Jonathan Hurst wedi dysgu Cymraeg er mwyn gallu cysuro cleifion o Gymru.

Yn hanu o ardal Manceinion, mae’r ymgynghorydd meddygol yn gweithio mewn ysbyty yn Lerpwl, ac gan ofalu am fabanod sydd wedi’u geni yn rhy fuan neu sy’n sâl yn fuan ar ôl eu genedigaeth.

Yn aml mae mamau a babanod sydd wedi bod i ysbytai yng Nghymru i ddechrau, yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl ar gyfer triniaeth arbenigol.