Cai Thomas oedd yn canu ‘Suo Gân’ ar gychwyn y ddrama deledu The Pembrokeshire Murders, ac mae sawl un wedi cymharu’r soprano ifanc gydag Aled ‘Walking in the Air’ Jones…

Mae soprano ifanc o Farnham yn Surrey, sydd â’i wreiddiau yn Aberteifi, yn prysur ddenu sylw’r byd teledu a ffilmiau Hollywood.