Bydd albwm cyntaf Papur Wal, Amser Mynd Adra, yn cael ei ryddhau ddydd Gwener yr wythnos hon (8 Hydref), bedair blynedd ers iddyn nhw ryddhau eu sengl gyntaf.

Yn wahanol i’r mwyafrif o fandiau Cymraeg, mae’r slackers o ogledd Cymru, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, wedi cymryd amser i arbrofi a darganfod eu sŵn cyn rhyddhau albwm.

Ond dydy hynny ddim i ddweud nad yw’r band wedi bod yn brysur dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae yna lond sach o senglau wedi cael eu rhyddhau yn ogystal ag EPLle yn y Byd Mae Hyn – yn 2019.

Maen nhw hefyd yn un o’r bandiau byw mwyaf cyffrous sydd gan Gymru i’w gynnig – os nad ydych chi wedi cael cyfle i’w gweld nhw eto, ewch!

Un peth sy’n dod yn amlwg wrth wrando ar Amser Mynd Adra ydi bod Papur Wal wedi cyfiawnhau eu penderfyniad i beidio rhuthro eu halbwm cyntaf.

Mae yna gysondeb a hyder yn perthyn i’r casgliad sydd ddim wastad wedi perthyn i’r band.

Rwyt ti’n ymwybodol dy fod yn gwrando ar sŵn unigryw Papur Wal drwyddi draw, er bod yna amrywiaeth go eang o ran arddull a genre o gân i gân.

“Dw i’n meddwl bod hynna yn un o’r pethau mae pobol yn ddweud wrtha ni ar ôl gigs a ballu, bod y sŵn yn gyson,” meddai Ianto, y prif leisydd a’r gitarydd.

“Rydan ni wedi ffeindio’r sŵn, neu’r fformiwla, os ti’n deall be’ dw i’n feddwl?

“Yn amlwg, mi ddaru ni gymryd ein hamser i fynd drwy bob dim o ran y demos cynnar, i’r senglau cyntaf i’r EP a’r senglau ar ôl hynny.

“Er bod yna amrywiaeth o ran y genres a’r dylanwadau sydd ar yr albwm yma, dw i’n meddwl bod yna sŵn cyffredin iddo fo i gyd math o beth.

“Neu dyna’r ydan ni’n gobeithio!”

Mae Guto, y drymiwr, yn credu bod rhyddhau’r sengl ‘Meddwl am Hi’ ym mis Chwefror 2020 – sef trac rhif tri ar yr albwm – wedi bod yn drobwynt i’r band.

“Mae o bendant yn fwy focused a consistent, sy’n rhywbeth oedd ella ddim yna cynt,” meddai.

“Dw i’n meddwl pan ddaru ‘Meddwl am Hi’ ddod allan roedd yna ryw deimlad ein bod ni’n mynd i gyfeiriad newydd oedd yn fwy poppy, ond roedden ni dal eisio cadw’r teimlad slacker a llai perfected yna hefyd.

“Ond roedd gen ti hefyd fwy o flas ar yr harmonïau a mwy o ddefnydd o vocals lle’r oedd y tri ohono ni’n canu ar hwnna.

“Ar ôl hynna, dw i’n meddwl ein bod ni wedi mynd i gyfeiriad lle gafon ni amser – neu fe gafodd Ianto a Gwion – amser i feddwl am ddiffinio hwnna a rhoi polish arno fo.”

Ac mae Ianto yn cytuno: “Dw i’n meddwl bod hynna yn crynhoi fo’n reit dda.

“Doedden ni ddim yn siŵr beth oedden ni’n ei wneud yn y dechrau. Dw i’n cofio meddwl ein bod ni eisio gwneud rhywbeth oedd yn sort of newydd a ffres a kind of efelychu bandiau fel Ysgol Sul a ballu oedd wedi dod jyst cyn ni ddechrau.

“Doeddwn i heb glywed dim byd felly yn y Gymraeg, ond rŵan yn amlwg mae yna lot o fandiau fel ni, Los Blancos a SYBS ac ati ddaru ddod ar ôl hynna.

“Ar y pryd roedd o’n teimlo’n eithaf newydd oherwydd roedden ni eisio gwneud rhywbeth oedd yn hollol raw a hollol unapologetic, ti’n gwybod?

“Ond ddaru ni sylwi ein bod ni eisio gwneud eithaf lot o arbrofi o ran genres a gwahanol arddulliau.

“Ond ia, fel mae Guto yn ddweud, ‘Meddwl am Hi’ oedd pwynt ddaru ni gyrraedd lle ddaru ni benderfynu ein bod ni’n licio gwneud hyn mwy.

“Dw i’n cofio cael y sgwrs a bod fatha: ‘Dw i’n meddwl bod hyn yn siwtio ni fwy, dw i’n meddwl ei fod o’n lot mwy enjoyable, be am ddefnyddio mwy o vocals’ math o beth.

“Dw i’n meddwl bod Guto wedi defnyddio’r gair ffocysu, a dyna be’ oedd o rili.

“Mae’r caneuon i gyd, yn enwedig y rhai mwy newydd sydd ar yr albwm, y rhai ddaru ni recordio olaf, stwff fel ‘Nôl ac yn ôl’, ‘Rhwng Dau Feddwl’, ‘Anifeiliaid Anwes’, ‘Penblwydd Hapus’, maen nhw i gyd yn vocal centric, y vocals ydi’r prif beth sy’n cario’r caneuon yna a dyna ydi’r peth sy’n kind of diffinio fo… y melody a threfniant y vocals rili.

“Mi ddaru ni arbrofi lot mwy na’r bandiau yna ro’n i’n siarad amdanyn nhw fatha Los Blancos, ond rydan ni yn falch ein bod ni wedi cymryd yr amser yna i arbrofi achos rŵan rydan ni bendant yn hapus.

“Mi fasa ni wedi gallu bod mewn sefyllfa lle fysa ni wedi gorfodi albwm allan ynghynt, ac ella fysa ni’n edrych yn ôl a bod y caneuon ddim yn diffinio’n union be’r ydan ni eisio cyfleu.

“Felly dw i’n falch ein bod ni wedi arbrofi ac amrywio gymaint â ddaru ni.”

Clawr ‘Amser Mynd Adra’

Giamstars am fideo

Er bod Papur Wal wedi cymryd eu hamser i arbrofi gyda’r sŵn, un peth ddaeth yn naturiol iawn i’r band yn syth oedd creu fideos.

Mae eu fideos – sy’n cael eu cynhyrchu ar y cyd gyda Billy Bagilhole – wedi bod heb eu hail yn y Sîn Roc Gymraeg ers tro byd.

Ymhlith y goreuon o’r fideos hyn mae ‘Yn y Weriniaeth Tsiec’, ‘Piper Malibu’ a ‘Llyn Llawenydd’ – mae’r ddwy gân olaf yna ar yr albwm.

Mae’r bartneriaeth gyda Billy Bagilhole ar ei gorau yn y gân ‘Arthur’ gafodd ei ryddhau fel un o senglau’r albwm newydd.

Cân am foi o’r enw Arthur ydi ‘Arthur’, coeliwch neu beidio, ac mae yna stori ddoniol y tu ôl iddi.

“Roedd ganddon ni gig yn Llundain efo Adwaith a Mellt ar ddiwedd taith lle’r oedden ni wedi chwarae yn Glasgow a Manceinion,” eglura Ianto.

“Mi oedd mêt ni Arthur yno yn Llundain, a gafon ni jyst un o’r nosweithiau yna efo fo.

Basically roedd ganddon ni rep yn y gig oedd yn edrych ar ein holau ni, mynd â ni i’r dressing room a ballu.

“Wedyn roedden ni yn y ffrynt ar ôl y gig yn sgwrsio efo fo, ag roedd Arthur yna’n dweud wrth y rep a phobol eraill hefyd – ond efo’r rep dw i’n cofio fo – ‘No, no mate, the thing is you’re not my second best friend, Ianto’s been waiting years to be my second best friend because obviously Gwion is my second best friend at the moment’ a jyst mwydro’r boi.

“Felly dyna ydi’r countdown sydd yn y gân cyn bo’ fi’n canu: ‘Fi ydi ail ffrind gorau Arthur’.”

Beth ydi’r fformiwla lwyddiannus ar gyfer fideo Papur Wal felly?

“Dw i’n meddwl ei fod o’n gymysgedd hudolus o bobol efo’i gilydd yn gwneud rhywbeth heb rili gormod o gynllun,” meddai Guto.

“Mae yna ryw fath o gynllun mewn lle, ond ers i ni ddechrau gwneud fideos y thrill ohono fo ydi mynd allan a saethu fideos a chael rhyw fath o naratif i fynd efo’r gân ac wedyn mae pawb yn bownsio syniadau oddi ar ei gilydd.

“Ac mae yna ddiolch mawr yn mynd allan i Billy am hynna, mae Billy wedi bod yn cynhyrchu efo ni ers y cychwyn ac mae o’n hwyl bod efo criw fel’na.

“Ti’n gallu rhoi dehongliad i’r gân ella fysa pobol heb feddwl amdano fo… mae yna bobol wedi dod ata ni ar ôl gweld gwahanol fideos a holi am be maen nhw ac ati.

“Mae rhoi delwedd i rywbeth yn codi cwestiynau artistig eraill mewn ffordd.”

Guto Rhys Huws (Drymiwr), Ianto Gruffydd (Prif Leisydd a Gitâr), Gwion Ifor (Llais a Gitâr Fas)

Gigio yn “un o’r teimladau gorau gei di”

Yn wahanol i bron bob band arall sydd wedi rhyddhau albymau dros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae Papur Wal wedi cael cyfle i gigio er mwyn hyrwyddo Amser Mynd Adra wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.

Sut brofiad oedd cael chwarae’r caneuon newydd yn fyw?

“Mae o wedi bod yn grêt do, Guto,” meddai Ianto, cyn i’r drymiwr gytuno.

“Do, ar ôl bod yn y stiwdio a gwrando ar dy fiwsig di drwy laptop a ddim gallu dangos o i neb am ages mae o jyst yn braf, ac mae gen ti’r elfen o’r unknown yna.

“Mae o’n hollol wahanol chwarae o flaen pobol, a pan ti efo caneuon newydd a ti eisio dangos nhw i bobol, un o’r teimladau gorau gei di ydi chwarae yn fyw.

“Roedd gig cynta’ ni’n ôl yn Clwb Ifor Bach yn class, roedd hi’n packed yna ac roedd pawb yn falch i fod yn ôl mewn gig, dw i’n meddwl, ac roedd o’n deimlad superb.

“Ddaru ni feddwl am hynna fyd wrth drio gorffen yr albwm. Roedd yn well ganddon ni ei wthio fo’n ôl ychydig bach a gwneud yn siŵr bo’ ni ddim yn brysio i orffen o tra bo’ ni methu chwarae yn fyw.

“Roedden ni bendant eisio gallu chwarae oherwydd mae hynna yn ochr bwysig ohono fo… ein bod ni’n gallu cyfleu beth sydd ar yr albwm.”

Does dim amheuaeth iddi fod yn werth aros am Amser Mynd Adra.

Mae Amser Mynd Adra ar gael i’w ragarchebu ar ffurf feinyl drwy wefan Libertino.