Mae gwraig fferm o’r gogledd yn giamstar ar osod blodau ac wedi cyrraedd rownd derfynol categori Tiwtor Blodeuwriaeth y Flwyddyn yng ngwobrau Prydeinig y British Florist Association.

Darlithwraig yn Adran Flodeuwriaeth Coleg Cambria yn Wrecsam yw Amanda Ellis, sydd hefyd yn trefnu blodau ar gyfer priodasau ac ati.