Mae yna straeon difyr – a dwys – y tu ôl i’r caneuon ar albwm newydd Tecwyn Ifan…

Ar ei nawfed albwm, Santa Roja, mae Tecwyn Ifan yn canu am y bobol sydd ar gyrion cymdeithas, a’r rhai sy’n breuddwydio am annibyniaeth fel achubiaeth Cymru.

Cyhoeddodd ei albwm cyntaf fel canwr unigol, Y Dref Wen, yn 1977.

Ac wrth iddo ddynesu at ei ben-blwydd yn 70 oed, mae yn dal ati i ganu am Gymru, ei phobol a’i sefyllfa wleidyddol.