Mae’r digrifwr Tudur Owen a’i wraig Sharon wedi agor caffi newydd ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, o’r enw Clustia’ Mul. Yma mae Tudur i sôn mwy…

Ro’n i wedi meddwl bod ein dyddiau rhedeg caffi ar ben – gawson ni ddyddiau gwych yn rhedeg Tŷ Golchi [caffi ar gyrion Bangor], ond roedd yn cymryd drosodd ein bywydau ni braidd. Mae’n rhaid i chi fod yna i redeg busnes llwyddiannus, tydach chi methu cymryd set ôl. Roeddan ni wedi bod yn rhedeg Tŷ Golchi ers pum mlynedd, ac wedyn dyma gwpl lleol Cymraeg yn cynnig rhentu fo gynnon ni.

Ac wedyn roeddan ni’n gyrru drwy Borthaethwy a dyma ni’n gweld arwydd ‘Ar Werth’ ar gaffi Pot Jam. Ro’n i’n synnu, achos roedd yn gaffi bach Cymraeg ac yn brysur iawn. Wnes i ddweud wrth Sharon: “Gobeithio bydd o ddim yn cael ei droi yn lle Saesneg,” a dyma hi’n fy herio i a deud: “Well put your money where your mouth is”.

Y gobaith ydy y cawn ni’r un llwyddiant achos rydan ni wedi dysgu cymaint o wersi yn Tŷ Golchi. Sharon sy’n cymryd y rhan fwya’ o’r baich achos mae’n andros o job rhedeg caffi a gwneud radio a gigs, ond rhwng y ddau ohonon ni rydan ni’n hyderus gallwn ni wneud o.

Dw i wrth fy modd yn mynd i’r caffi a gweini a bod ar y til, ond dw i’n tueddu i gadw’n glir o’r gegin achos dw i ddim yn gallu coginio. Mi wna i olchi llestri a dw i’n gallu troi’n llaw at DIY.

Sharon sy’n delio efo’r staff achos dyna sy’n cymryd y rhan fwya’ o egni. Dydy busnes mond mor llwyddiannus â’r bobl sy’n gweithio yna a’u brwdfrydedd nhw. Mae’r wythnosau diwetha yma wedi bod yn anodd iawn, gyda chyfyngiadau’r pandemig wedi ei gwneud hi’n amhosib i ni agor a hefyd mae hi wedi bod yn anodd iawn recriwtio staff. Ond mi rydan ni wedi casglu digon o dîm i fedru parhau â’r fenter erbyn hyn.

Dwyieithog

Mae Porthaethwy yn lle bach prysur ac mae lot o lefydd i fwyta ac rydan ni’n edrych mlaen at fod yn rhan o’r cyffro. Mae Clustia’ Mul yr un math o fusnes a Pot Jam ond rydan ni wedi rhoi ein stamp ni ar y lle. Mae’r bwyd yn eitha’ syml – brechdanau, cawl, a dewisiadau iach fel salad, a lot o bethau llysieuol a figan. Mae’n lle braf i gael paned a chacen a brecwast yn y bore. Gobeithio daw’r un cwsmeriaid yn ôl.

Rydan ni am ddefnyddio bwydydd a diodydd lleol, a’r peth mwya’ i ni ydy ei fod yn cynnig gwasanaeth Cymraeg, ddwyieithog. Roedd cymaint o bobl oedd yn gwerthfawrogi gwasanaeth Cymreig yn Tŷ Golchi, ac roedd y bwydlenni a bob dim yn ddwyieithog.

Clustia’ Mul

Mae’r enw Clustia’ Mul wedi codi ambell aelyn. Mae’n enw eitha’ cofiadwy ac mae stori fach tu ôl iddo, hen hanes teuluol am ddyn yn temtio ffawd. Heblaw bod Sharon wedi herio fi fysan ni ddim wedi rhoi tro arni.

Roeddan ni’n lwcus cael y caffi mewn ansawdd mor dda. Mae rhai pethau wedi mynd achos roeddan ni eisiau rhoi stamp ein hunain ar y lle, ac rydan ni jest wedi newid ychydig ar naws y lle. Rydan ni wedi ail-addurno tu mewn efo lliwiau ysgafn – mae yna olau neis, ac mae’n lle braf i fod. Mae yna ychydig o waith celf ar y waliau ond tydan ni ddim eisiau llenwi’r lle yn rhy gyflym a jest gadael iddo fo esblygu.

Mae’r ffrynt yn binc i gyd, sy’n gweddu’r lle.

Arlwyo yn y gwaed

Ers y 1970au tan tua 2005 roedd fy nheulu i yn rhedeg lle o’r enw Glan Traeth [yn Ynys Môn] oedd yn fwyty a chanolfan adloniant reit boblogaidd. Wnaethon ni gau’r lle ar ôl i mam farw. Roedd pawb yn rhan ohono fo ac mae arlwyo yn fy ngwaed. Wnes i dyfu fyny yn golchi llestri, ac yn helpu yn y ganolfan adloniant gyda’r nos, a dyna sut wnes i ddechrau gweithio mewn adloniant. Mae’r profiad o fynd allan am fwyd bron fel adloniant. Mae’n fwy na jest y bwyd, mae’n brofiad braf, fel mynd allan am noson. Pan rydan ni’n recriwtio staff, rydan ni’n chwilio am bobl hapus sy’n gwenu, mae hynny mor bwysig. Mae cael y cysylltiad yna rhwng y staff a’r cwsmeriaid mor bwysig, mae’n rhan o’r profiad. Mae o fel perfformiad – rhowch wên ar eich wyneb.

Clustia’ Mul, Porthaethwy, Ynys Môn