Portread o Mike Jones

Mae’r arlunydd bytholwyrdd Mike Jones yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 fis yma, ac mae’r filltir sgwâr mor bwysig ag erioed iddo.

Cafodd Mike Jones ei fagu yng Nghilmaengwyn a Godre-graig yng Nghwm Tawe, a bellach mae’n byw ym Mhontardawe, ac yn gweithio o’i stiwdio yno.

Roedd ei rieni’n cadw tafarn, a pha le gwell i sylwi ar bobol ac ysbrydoli darpar arlunydd.