Chlywais i erioed am Syr David Amess cyn wythnos diwethaf, a byddai’n well tasa hynny yn wir o hyd. Roedd ei lofruddiaeth wrth gyflawni gwaith etholaeth yn un erchyll, ac mae’n codi cwestiynau am gyflwr gwlad sydd bellach wedi gweld dau Aelod Seneddol yn cael eu lladd o fewn ychydig dros bum mlynedd i’w gilydd.