Oes yna ryw hen ystrydeb ein bod ni’r Cymry yn greaduriaid busneslyd dywedwch? Wn i ddim faint o wir sydd yn hynny, ond yn sicr mae gan S4C draddodiad o’r hyn y byddwn i’n ei ddisgrifio fel ‘rhaglenni busnesu’. O 04 Wal i 3 Lle yn y blynyddoedd a fu (roedden nhw’n hoff iawn o roi rhifau yn enw pob rhaglen ar un cyfnod, cofio?) ac Adre a Dan Do yn fwy diweddar, mae yna chwant heb os am raglenni am lefydd y mae pobl yn byw ac yn t