Dydw i ddim, ond hyd yn oed pe bawn i’n credu am eiliad y gallwn i ddwyn perswâd ar unrhyw un i fwrw pleidlais drostof i, allwn i byth â bod yn wleidydd.

Byddai teimlo bod disgwyl i fi fod ar ddyletswydd 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, yn fy llethu.

Byddai gwybod y gallai etholwyr fy nghornelu ar unrhyw adeg mewn archfarchnad, neu ar lan y môr, neu mewn caffi, neu ar y stryd, yn fwrn arna i.

Byddai gwybod y cawn fy meirniadu a fy niawlio beth bynnag a wnawn yn fy mlino.