Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yn cynnal gŵyl gerddoriaeth dros y penwythnos, er mwyn “dangos bod UMCB yn gallu gwneud stwff fel hyn”.

Mae ‘Gŵyl UMCB’ yn cyd-fynd ag wythnos a diwrnod ‘Shwmae Su’mae’ sydd wedi dod yn ddathliad blynyddol o’r iaith Gymraeg yn yr Hydref.

Bydd cerddoriaeth fyw mewn lleoliadau amrywiol ym Mangor dros y penwythnos, gan gynnwys tafarnau’r Glôb a Patrick’s Bar, clwb Academi a chanolfan Pontio

Yn ôl y trefnydd, mae yna bwyslais ar gefnogi bandiau ac artistiaid ifanc ar y nos Wener, tra bod bandiau mwy adnabyddus yn cymryd i’r llwyfan ym Mhontio nos Sadwrn.

Ymhlith y bandiau sy’n chwarae nos Wener (14 Hydref) mae Dafydd Hedd, CAI, Elis Derby a Tesni Hughes.

Yna ar y nos Sadwrn yn Pontio, bydd Kim Hon, Mali Hâf, 3 Hwr Doeth, Y Cledrau, Alffa a’r Eira yn diddanu.

Line up Pontio nos Sadwrn

‘Bandiau, busnesau a myfyrwyr yn elwa’

“Mae yna dipyn o gap in the market am bethau fel hyn ym Mangor,” meddai Mabon Dafydd, Llywydd UMCB sydd hefyd wedi trefnu’r ŵyl.

“Ond mae’r lleoliadau i gyd gyda ni felly mae’n braf cael trefnu bod bandiau’n dod yma a rhoi digwyddiadau ymlaen yma.

“Oherwydd wedyn mae’r myfyrwyr yn elwa, mae’r bandiau yn elwa, mae busnesau lleol yn elwa.

“Mae’n braf hefyd rhoi platfform i fandiau ifanc… efallai nad ydyn nhw wedi cael gigio llawer dros yr haf, ac mae rhai sydd heb gael gwneud ers Covid.”

“UMCB yn gallu gwneud stwff fel hyn”

“Roedd o bendant yn ysgogiad i’w wneud yr ŵyl o dan faner UMCB, oherwydd trwy wneud hynny roeddwn i’n meddwl y byddai’n apelio at fyfyrwyr a phobol ifanc,” meddai Mabon Dafydd.

“A dw i’n credu ei fod o’n bwysig ein bod ni’n dangos bod UMCB yn gallu gwneud stwff fel hyn.

“Mae pethau fel hyn yn codi ymwybyddiaeth am y Brifysgol ac UMCB hefyd, mewn ffordd.

“Mae’r bartneriaeth sydd gyda ni gyda Pontio nawr yn un brilliant ac maen nhw am gael y digwyddiadau yma ymlaen yn eu theatrau nhw, felly dw i’n credu ei fod o’n grêt ein bod ni’n gallu gwneud hynna.

“Dw i hefyd reit chwilfrydig i weld sut fydd pethau’n gweithio yn Academi (sydd fel arfer yn glwb nos yn hytrach na lleoliad gig).

“Os ydi o’n gweithio, mi fydda i’n sicr yn defnyddio’r lle eto achos mae o’n ideal o ran capasiti.”

“Tocynnau yn gwerthu’n dda”

Mae Mabon Dafydd yn rhagweld y bydd y nosweithiau yn llwyddiant ymhlith y myfyrwyr.

“Dw i ddim yn meddwl y bydd hi’n anodd iawn cael crowd yn Paddy’s a Glôb ar nos Wener, ac wedyn gawn ni weld sut eith Academi gan ei fod o’n rhywbeth newydd sydd heb gael ei wneud o’r blaen.

“Ac wedyn o ran Pontio nos Sadwrn, mae tocynnau yn gwerthu’n dda iawn, felly dw i’n edrych ymlaen yn fawr.”