Mae newyddiadurwr wedi cael cryn ymateb wedi iddo honni fod hanner y geiriau a ddefnyddia John Hartson pan mae’n sylwebu ar S4C yn rhai Saesneg.

Mewn trydar ynghanol y gêm gyffrous rhwng Cymru a’r Weriniaeth Tsiec a ddarlledwyd yn fyw o Prâg neithiwr gan S4C, ysgrifennodd Rob Harries, sy’n newyddiadurwr gyda’r Western Mail yn Saesneg: “Literally half the words John Hartson uses on S4C are English. Can’t they get a Welsh speaker?”

Cafodd trydariad Mr Harries gryn ymateb gyda’r rhan helaeth o bobl yn dweud eu bod yn gefnogol o John Hartson a’i sylwebu ar bêl-droed ar S4C.

Roedd y rhan fwyaf o’r farn fod sylwebaeth cyn arwr Cymru, Arsenal, Celtic, West Ham, Wimbledon, Coventry City, West Bromwich Albion, Luton Town a Norwich City, yn wych a diddorol ac nad oedd ganddyn nhw lawer o bwys os oedd o’n defnyddio geiriau Saesneg fel rhan o’i sylwebaeth ai peidio.

Ysgrifennodd Mr Harries ail drydar yn dweud: “‘Mae Cymru wedi chwarae yn absolutely fantastic like. Ac ma nhw wedi set up i hitto teams arall ar y counter attack. Gobeithio bod y side yn gallu sticko the pel yn yr onion bag yn y second hanner.’

Mewn ymateb, dywedodd asiant John Hartson, Helen, wrth golwg360 ei fod o’n brysur heddiw yn gwneud rhagor o waith cyfryngol ac na allai fod ar gael i roi sylw.

Ddoe, cyn y gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec, roedd John wedi trydaru: “Pob lwc Cymru” ac ychwanegu baner Y Ddraig Goch.

Nid oedd Rob Harries, chwaith ar gael pan gysylltodd golwg360 ac ef.

Ond ychwanegodd y trydariad yma heddiw: “After criticising the standard of John Hartson’s Welsh during last night’s football, I’ve endured my biggest ever social media kicking (which is saying something if you’ve ever seen my Facebook page). I’m fine with that.”

Fodd bynnag, trydarodd Hedd Gwynfor mewn ymateb: “Annheg iawn. Mae o deulu di-Gymraeg. Dwi’n falch gweld pobl fel Hartson ar S4C. Dwi ddim yn hoffi heddlu iaith.”

Ychwanegodd Rhys Wynne: “A bydde fo di gadel Cymru’n 14 oed ddychmyga i a byw mewn lodgings i ddod drwy system ieuenctid Luton.”

Dyma ddywedodd Geraint Lovgreen: “Ma hwn yn tweet embarrassing Rob (os ga’i ddefnyddio 50% Saesneg). John ydi un o fy hoff pyndits, siarad lot o sens.”

Ac ychwanegodd Cofi Army: “Tyd am dro i Dre i glwad Cymraeg double dutch iawn, Hartson yn spot on!”

Bedwar diwrnod yn ôl fe drydarodd John Hartson: “Today I am 10 years clean of Gambling.. feeling immensely proud of my wife’s support.. so many people to thank .. these past 10 years I’ve had my life back.”

Ym mis Gorffennaf 2009 cafodd Hartson driniaeth cemotherapi ar ôl cael diagnosis o ganser y ceilliau a oedd wedi lledu i’w ymennydd.

Mae yn cadw’n brysur fel sylwebydd ac wrth ei fodd yn chwarae golff.

Meddai llefarydd ar ran S4C: “Mae John Hartson yn sylwebydd profiadol sydd â hygrededd a dealltwriaeth wych o bêl-droed. Mae S4C yn falch o’i gael yn rhan o’r tîm ac yn ei annog i ddadansoddi’r gemau yn ei acen a’i gywair naturiol.”