Mae Bryn Williams yn galw am hyfforddi cenhedlaeth newydd o gogyddion er mwyn cefnogi’r sector lletygarwch.

Wrth groesawu recriwtiaid newydd i academi Academi Bryn Williams, fe wnaeth y cogydd ddweud y dylid bod yn hyderus wrth fynd i’r afael â heriau’r pandemig, a’r cynnydd mewn swyddi gwag yn y sector.

Daeth Bryn Williams yn enwog ar raglen y Great British Menu, ac mae Academi Bryn Williams yn cyfuno profiad gwaith yn ei fwytai ym Mae Colwyn a Llundain gyda chymhwyster Arlwyo a Lletygarwch o Goleg Cambria yn y gogledd.

Mae cael yr Academi “yn ôl i ar ei thraed ar ôl cyfnod anodd i bawb yn wych,” meddai Bryn Williams wrth siarad ar gampws Coleg Cambria yn Wrecsam.

“Dwylo diogel”

“Os oedd angen partneriaeth fel hon arnom ni erioed ym maes lletygarwch ac arlwyo, rŵan ydy’r amser gan fod cymaint o bobl wedi gadael y grefft am amryw resymau,” meddai Bryn Williams, sy’n dod o Ddinbych yn wreiddiol.

“Er gwaethaf hynny, mae’n ddiwydiant anhygoel gyda chymaint o opsiynau gyrfa a’r cyfle i deithio’r byd a phrofi pethau anhygoel.

“Sgiliau ydi hanfod y cyfan a dyna ein prif ffocws, o’r gegin i waith blaen y tŷ – unwaith mae ganddyn nhw’r sgiliau hynny a’r agwedd iawn, mae unrhyw beth yn bosibl.

“Mae’r arena lletygarwch yn enfawr, o dafarndai, caffis a gwestai i farchnata, cysylltiadau cyhoeddus, rheoli digwyddiadau a mwy, ac mae’n newid er gwell.

“Ond dydy gwerth sgiliau ddim yn newid, a dyna hanfod yr Academi. Mae angen i ni feithrin y genhedlaeth nesaf i sicrhau bod y sector mewn dwylo diogel, yn enwedig rŵan, ar ôl popeth y mae wedi bod drwyddo.”

“Denu rhagor”

Oscar, Liam a Dougie yw’r criw diweddaraf o fyfyrwyr sy’n ymuno â’r Academi, a dywedodd Andy Woods, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Cambria ar gyfer Economi Ymwelwyr, fod y diddordeb yn yr Academi wedi cynyddu ers iddi gael ei lansio tair blynedd yn ôl, er gwaethaf Covid.

“Rydyn ni mor falch o allu cofrestru myfyrwyr newydd ac rydyn ni’n hyderus y bydd y diwydiant yn symud i gyfeiriad cadarnhaol,” meddai.

“Mae ymgyrch recriwtio ar draws lletygarwch, ac i’r tri myfyriwr hyn bydd cael yr Academi ar eu CV pan fyddan nhw’n cwblhau eu hastudiaethau yn fantais gystadleuol iddyn nhw, bydd yn rhoi hwb iddyn nhw.

“Mae’r diwydiant yn newid ac yn datblygu, mae cyflogau ac amodau gwaith yn gwella trwy’r amser felly mae’n amser perffaith i ymuno a byddwn ni’n denu rhagor o bobl. Byddwn ni’n rhan fawr yn hynny ac yn edrych ymlaen at fwrw ati eto.”