Mae protestwyr y mudiad Insulate Britain wedi blocio cyffordd ar ffordd fawr yr M25 a phrif lôn yng nghanol Llundain.

Dywedodd yr ymgyrchwyr hinsawdd bod tua 40 o brotestwyr yn eistedd yng nghanol y ffordd wrth gyffordd 25 yr M25 yn Waltham Cross, Swydd Hertford, ac ar yr A501 wrth gylchfan Old Street yn Llundain.

Fe wnaeth y protestiadau achosi ciwiau hir o draffig fore Gwener (8 Hydref).

Mae fideo a bostiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol gan orsaf radio LBC yn dangos protestwyr yn rhedeg o flaen fan heddlu wrth gyffordd yr M25.

Mae swyddogion yn llusgo rhai o’r protestwyr oddi a’r y ffordd.

Dyma’r deuddegfed diwrnod yn ystod y pedair wythnos diwethaf i Insulate Britain darfu ar draffig a chreu trafferth er mwyn amlygu peryglon newid hinsawdd.

“Aflonyddwch afresymol”

Dywedodd Heddlu’r Metropolitan: “Mae protestwyr wedi eu harestio ar yr M25.

“Mae pedwar o bobol wedi cael eu cludo o’r ffordd, maen nhw’n cael eu symud.

“Mae swyddogion wedi agor y slipffordd i’r A10.

“Mae ymgyrchwyr yn Old Street, Islington, yn parhau i rwystro’r ffordd lle mae nifer o bobol hefyd yn cael eu cludo o’r neilltu.

“Mae hyn yn achosi aflonyddwch afresymol i’r gymuned. Mae timau arbenigol yno ac yn gweithio i gael gwared ar y rhai sy’n protestio.”

“Dylid mynd â Boris Johnson i’r llys”

Dywedodd Tracey Mallagan, llefarydd ar ran Insulate Britain, sy’n galw ar y Llywodraeth i insiwleiddio holl gartrefi’r Deyrnas Unedig erbyn 2030 i leihau allyriadau carbon: “Os nad yw llywodraethau’n gweithredu’n fuan i leihau allyriadau, rydym yn wynebu sefyllfa frawychus.

“Fyddwn ni ddim yn poeni am brinder pasta neu bapur tŷ bach, oherwydd bydd cyfraith a threfn yn torri lawr yn eithaf cyflym pan nad oes digon o fwyd i’w ddosbarthu rhwng pobol.

“Fydd y Llywodraeth ddim yn meddwl ‘tybed a oes digon o welyau ysbyty neu beiriannau anadlu?’, ond ‘a oes digon o bobol ar ôl i gladdu’r meirw?’.

“Mae’r Llywodraeth yn dinistrio ein gwlad. Dylid mynd â Boris Johnson i’r llys.”

“Ffyliaid”

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi galw aelodau Insulate Britain yn “ffyliaid”.

Dywedodd Grant Shapps wrth LBC: “Mae’n beryglus, mae’n wirioneddol warthus, ac mewn gwirionedd, yn eironig, mae’n debyg ei fod yn ychwanegu at lygredd gan fod ceir yn aros yn eu hunfan, yn disgwyl i’w nonsens ddod i ben.

“Mae angen cryfhau’r cyfreithiau presennol i gael y ffyliaid hyn oddi ar y ffordd, ac mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud y bydd yn gwneud hynny yn y Mesur Plismona Trosedd a Dedfrydu sy’n mynd drwy’r Senedd.

“Yn y cyfamser, rwyf wedi bod yn gwneud cais gweithredol am waharddebau llys, sy’n cwmpasu’r rhwydwaith priffyrdd cenedlaethol o amgylch Llundain, o amgylch y De Ddwyrain.

“Nawr gall y bobol hyn fynd i’r carchar am yr hyn maen nhw’n ei wneud.”