Mae dynes o Benrhyndeudraeth yn ceisio codi arian i dalu am driniaeth i’w mam sy’n ddifrifol wael yn India.

Mae Sushil Jain yn dioddef o Twbercwlosis Ymledol (Disseminating Tuberculosis), cyflwr sy’n “peryglu ei bywyd”, ac er mwyn cael ei thrin mewn uned gofal dwys, rhaid talu tua £1,000 y diwrnod.

Er mwyn helpu gyda’r costau, mae ei merch Niki Jones wedi sefydlu tudalen GoFundMe i godi arian ar gyfer talu am y driniaeth a’r gofal i’w mam.

Hyd yn hyn, mae hi wedi codi £4,226, sy’n golygu bod gan y teulu ddigon i dalu am ofal i’w mam nes diwedd y mis, efallai wythnos gyntaf Tachwedd, ond ar ôl hynny dydi Niki Jones ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd.

Mae’r sefyllfa yn “hunllef”, meddai wrth golwg360, gan ei bod wedi rhedeg allan o gynilion, a gan ei bod hi yng Nghymru a’i mam yn India ar y funud.

Mae’r Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts wedi llwyddo i drefnu apwyntiad visa brys iddi, ac mae Niki Jones i fod i hedfan i India fory.

Dydi hi erioed wedi gofyn am help ariannol gan neb o’r blaen, ac mae’r sefyllfa yn straen enfawr arni, meddai, ond mae’n ddewis “rhwng fy malchder a bywyd fy mam”.

Cefndir

Esboniodd Niki Jones, sy’n gwnselydd wrth ei gwaith, bod ei mam wedi dechrau dangos symptomau ddiwedd Mehefin, a chafodd ei diagnosio â niwmonia.

“Doedd ei symptomau hi ddim i’w gweld yn gwella o gwbl, felly tua phythefnos wedyn, fe wnes i yrru hi [at y meddyg] eto.

“Aeth i ysbyty arall, ac fe wnaethon nhw ddechrau gwneud profion a chafodd hi ei diagnosio â thwbercwlosis a dechreuon nhw’r driniaeth yn syth, fwy neu lai. Roedd hi yno am bythefnos, dair wythnos.”

Pan gafodd ei rhyddhau’r tro hwnnw, roedd hi i weld yn gwella eto. Ond dechreuodd ddioddef symptomau, a chafodd ei diagnosio â haint dŵr a chymhlethdodau gyda nodau lymff a’i hysgyfaint yn sgil y twbercwlosis.

Bu yn yr ysbyty am tua thair wythnos eto.

“Trwy’r amser, roedd hi’n defnyddio’r yswiriant iechyd sydd ganddi. Mae ganddi yswiriant meddygol gwerth £25,000 ac yn sgil y triniaethau hynny mae hi wedi defnyddio tua £12,000 o hwnnw’n barod.”

“Hunllef”

Wythnos ddiwethaf, fe wnaeth cefnder Niki Jones ddarganfod ei mam yn anymwybodol.

“Yn anffodus, aethon nhw â hi i’r ysbyty anghywir – mae’n ymddangos bod hynny wedi gwneud pethau ychydig gwaeth,” eglurodd.

“Achos fy mod i yn fan hyn, dw i mor bell i ffwrdd, mae’n hunllef. Fe wnes i orfodi nhw i symud hi i ysbyty gwell, a dweud wrthyn nhw beidio poeni am yr arian, fe wnâi ffeindio’r arian.

“Ddydd Sadwrn, fe wnaethon nhw brawf MRI arni pan oedd hi yn yr ysbyty, ac fe wnaethon nhw ffeindio bod ganddi twbercwlosis ymledol, sy’n golygu bod y bacteria TB wedi teithio i’w hymennydd ac yn lledaenu yn ei hymennydd, sy’n achosi llid ar yr ymennydd.

“Roedd hi wedi bod yn anymwybodol am 48 awr, a hyd yn oed cyn hynny doedd hi ddim yn ymateb llawer.

“Y broblem gyda’r ysbyty yma yw ei bod hi’n ofnadwy o ddrud, mae yn ysbyty da iawn.

“Cyn dechrau’r driniaeth fe wnaethon nhw ofyn am flaendal o £500… mae fy nheulu yn India yn eithaf tlawd.

“Fe wnes i lwyddo i dalu’r blaendal, ac wedyn o fewn deuddydd roedd yna fil arall, a bil arall.”

“Teimlad gwaethaf erioed”

Mae Niki Jones wedi defnyddio miloedd o bunnau o’i chynilion er mwyn talu am y gofal yn yr uned gofal dwys, sy’n costio tua £1,000 y diwrnod.

“Ar y funud, mae’n hunllef achos dw i wedi rhedeg allan o gynilion.

“Yn fwy na dim byd arall, mae wedi bod yn hunllef achos roedden ni’n meddwl byddai’r £12,000 o bres yswiriant yn ddigon i’n cadw ni i fynd am ychydig wythnosau. Ond maen nhw wedi gwrthod y cais.

“Dydi’r pres oedden ni’n gobeithio amdano heb ddod drwodd. Y syniad gwreiddiol oedd y byddai’r codi arian yn ychwanegu at beth sydd ganddi hi drwy’r yswiriant a beth sydd gen i yn fy nghynilion.

“Ond yn anffodus, dim dyna yw’r achos nawr,” meddai.

“Dw i jyst yn panicio ar y funud, achos dydw i ddim gwybod.

“Ar y funud, rydyn ni wedi codi £4,200 felly efallai y gwneith hynny gadw ni i fynd nes diwedd y mis, ella wythnos gyntaf Tachwedd, ond ar ôl hynny… dw i jyst ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd.

“Dyma’r teimlad gwaethaf erioed, o bosib. Dw i erioed wedi gofyn i neb am unrhyw fath o help ariannol o’r blaen, mae gorfod gwneud hyn yn loes calon i mi ar y funud.

“Ar y funud, mae’r dewis rhwng fy malchder a bywyd fy mam, ac mae’n rhaid i fi ddewis bywyd fy mam.

“Mae’n teimlo’n rhyfedd gorfod gwneud hyn, dw i wedi codi arian i bobol eraill ac elusennau o’r blaen. Ond dw i erioed wedi trio codi arian ar gyfer materion personol a dw i’n teimlo mor ofnadwy yn gorfod gwneud hyn.

“Ond dw i’n teimlo fy mod i’n styc ar y funud.

“Unrhyw un sy’n gallu rhannu, neu unrhyw un sy’n gallu rhannu’r gair, dw i’n hynod ddiolchgar.”