Mae’r Post Brenhinol yn anelu at gyflogi 650 o weithwyr tymhorol yng Nghymru i helpu gyda llwyth post y Nadolig.
Bydd swyddi ar gael o ddiwedd Hydref hyd at ddechrau’r flwyddyn newydd.
Mae cwmnïau cludo fel Parcelforce hefyd yn chwilio am yrwyr wrth i siopa ar-lein gynyddu.
Fe gyhoeddodd y Post Brenhinol hefyd y byddai cyfanswm o 20,000 o weithwyr tymhorol yn cael eu cyflogi ar draws y Deyrnas Unedig, gyda 17,150 yn Lloegr, 1,800 yn yr Alban, a 500 yng Ngogledd Iwerddon.
“Bod yn rhan o’r Nadolig”
“Mae ein gweithlu tymhorol yn hynod o bwysig i’n menter,” meddai prif swyddog pobol y Post Brenhinol, Zareena Brown.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r rhai sy’n dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ogystal â’r rhai fydd yn ymuno â ni am y tro cyntaf.
“Mae bod yn rhan o’r Nadolig yn brofiad gwych ac yn un rydyn ni’n ei wybod sy’n cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ac ymgysylltu yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”