Roedd nifer y siopwyr yng Nghymru 16.2% yn is ym mis Medi eleni o gymharu â Medi 2019.
Yn Llundain y bu’r gostyngiad mwyaf sylweddol (26.3%), tra bod yr Alban wedi gweld gostyngiad mawr hefyd (19.9%).
Mae arweinwyr y diwydiant wedi mynegi pryder wrth drafod yr “ystadegau llwm”, ac yn dweud bod y “gostyngiad parhaus” mewn siopwyr ar strydoedd mawr yn arwydd sy’n peri pryder cyn cyfnod y Nadolig.
Dros y Deyrnas Unedig, bu gostyngiad o 16.8% ar gyfartaledd rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2021.
“Ystadegau llwm”
Dywedodd cyfarwyddwr Consortiwm Manwerthu’r Alban, David Lonsdale, bod yr ystadegau’n dangos angen i weithredu ar frys i ddod ag egni a siopwyr yn ôl i ganol trefi.
“Mae gwneuthurwyr polisi wedi cymryd camau, sydd i’w croesawu, i lacio cyfyngiadau Covid, tra bod siopau yn cynnig profiad siopa diogel a chroesawgar ac ystod eang o gynnyrch gyda chynigion deniadol,” meddai David Lonsdale.
“Fodd bynnag, mae’r ystadegau llwm rhain yn golygu bod angen gweithredu ar frys er mwyn dod ag egni a siopwyr yn ôl i leoliadau manwerthu canol ein dinasoedd – gweithredu sy’n teimlo fel y twll diharebol mewn Polo Mint ar y funud, ar goll.”
“Fe wnaethon ni weld ychydig o arafu yn y gwelliant mewn niferoedd siopwyr ym mis Medi, a gafodd ei amlygu’n bennaf yn ail hanner y mis wrth i ofnau dros brinder petrol arwain at gwsmeriaid yn cwtogi eu siwrnai siopa i deithiau hanfodol,” ychwanegodd Andy Sumpter, cynghorydd manwerthu Sensormatic Solutions.
“Fodd bynnag, er ein bod ni wedi gweld niferoedd siopwyr yn lefelu yn y mis diwethaf, roedd mis Medi dal yn cynrychioli’r pwynt adfer uchaf o gymharu â lefelau cyn y pandemig hyd yn hyn eleni, gan bwyntio tuag at gynnydd graddol, ond bach, er gwaethaf amhariadau i’r gadwyn gyflenwi a phrinder petrol mewn pympiau.”