Mae pobol yn y Deyrnas Unedig yn bwyta 17% yn llai o gig nawr o gymharu â degawd yn ôl, yn ôl astudiaeth newydd.

Defnyddiodd yr astudiaeth ddata gan yr Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol i asesu newidiadau yn nifer y bobl sy’n bwyta cig coch, gwyn a chig wedi’i brosesu rhwng 2008/09 a 2018/19.

Daeth yr astudiaeth i’r canfyddiad bod gostyngiad o 103.7g i 86.3g – sef tua 17% – yn y cig sy’n cael ei fwyta’r pen bob dydd ar gyfartaledd.

Mae pobol yn bwyta 13.7g yn llai o gig coch, tra bod pobol yn bwyta 7g yn llai o gig wedi’i brosesu.

Dangosodd yr ymchwil bod pobol yn y Deyrnas Unedig yn bwyta 3.2g yn fwy o gig gwyn bob diwrnod nawr o gymharu â degawd yn ôl.

“Angen mwy o ostwng”

Er gwaethaf y gostyngiad, mae awduron yr astudiaeth yn rhybuddio nad yw’n mynd yn ddigon pell i gyrraedd y targedau bwyta cig sy’n cael eu hamlinellu yn adroddiad Strategaeth Fwyd Genedlaethol Henry Dimbleby.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod rhaid i faint o gig coch mae pobol yn ei fwyta ostwng 30% erbyn 2030 er mwyn lleihau allyriadau methan sy’n cael eu rhyddhau gan wartheg a defaid, ac sy’n effeithio cynhesu byd-eang.

Byddai cyrraedd y targed hefyd yn rhyddhau tir er mwyn hybu byd natur ac amsugno carbon, meddai.

Dywedodd prif ymchwilydd yr astudiaeth, Cristina Stewart o Brifysgol Rhydychen, wrth y BBC: “Rydyn ni’n gwybod ein bod ni angen gostyngiad sylweddol.

“Does dim rhaid i chi fod yn llysieuwr. Ond, ar y cyfan, bydd prydau heb gig yn cael llai o effaith.

“Ond os ydych chi’n rhywun sy’n bwyta cig bob dydd, byddai bwyta 30% yn llai o gig yn golygu dim ond dau ddiwrnod heb gig yr wythnos.”

Mae bwyta lot o gig wedi cael ei gysylltu â chanser y coluddyn, ac mae adolygiad a gafodd ei ryddhau fis diwethaf yn dweud bod bwyta gormod o gig coch a chig wedi’i brosesu’n cynyddu’r risg o afiechyd y galon.

“Cynaliadwy”

Mae Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, yn dweud mai’r peth pwysig yw “gwneud dewis cadarnhaol o ran yr amgylchedd” wrth brynu cig.

“Fel y mae ymchwil annibynnol ar allyriadau ffermydd Cymru wedi dangos, mae byd o wahaniaeth rhwng cig a gynhyrchir yma mewn modd cynaliadwy, a’r mathau o gynhyrchu dwys sy’n digwydd mewn rhai mannau o’r byd,” meddai Gwyn Howells.

“Yng Nghymru ry’n ni’n cynhyrchu cig oen ac eidion ar dir sy’n anaddas i bwrpasau eraill, gan ddefnyddio adnoddau naturiol sydd wrth ein traed – glaswellt a glaw.

“Does dim angen torri cig allan o’r deiet i wneud dewis cadarnhaol o ran yr amgylchedd – dim ond dewis cig sydd wedi ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy.”

Mae Hybu Cig Cymru hefyd yn nodi bod gwerthiannau cig wedi cynyddu 12.6% yn y 52 wythnos hyd at 16 Mai 2021.

Porc oedd y cig mwyaf poblogaidd ymysg prynwyr, gyda 71% o bobol Prydain yn penderfynu ei brynu.

Tyfodd gwerthiannau cig oen 3.8% yn ystod y flwyddyn, gyda 54% o bobol Prydain yn penderfynu prynu’r cig, ac yn ôl Hybu Cig Cymru ni wnaeth y pandemig effeithio ar werthiannau cig coch, a bu cynnydd sydyn yn ei boblogrwydd.