Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Sajid Javid, yn annog pobl i gael brechlyn ffliw yn ogystal â phigiad atgyfnerthu Covid-19 ar ôl i arbenigwyr ragweld y gallai’r firws roi straen aruthrol ar y Gwasanaeth Iechyd [GIG] dros y gaeaf.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio’r rhaglen frechu ffliw fwyaf yn hanes y GIG gyda phigiadau atgyfnerthu Covid-19 hefyd yn cael eu cynnig, sef trydydd dos o’r brechlyn.
Mae angen i’r brechlyn atgyfnerthu Covid-19 gael ei roi o leia’ chwe mis ar ôl yr ail ddos o’r brechlyn Covid, yn ôl canllawiau gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwnedd (JCVI).
Wrth i’r tywydd oeri, mae arbenigwyr yn galw ar bobl i dderbyn y cynnig o frechlyn ffliw a/neu frechlyn atgyfnerthu Covid-19 pan mae’r GIG yn cysylltu â nhw, ac nad ydyn nhw’n oedi cyn eu cael.
Ychydig iawn o bobl gafodd driniaeth yn yr ysbyty am y ffliw yn ystod y gaeaf y llynedd o ganlyniad i ymbellhau cymdeithas ond mae’r Gwasanaeth Iechyd yn paratoi ar gyfer cynnydd mawr mewn achosion yn y misoedd nesaf oherwydd diffyg imiwnedd ymhlith y boblogaeth, cwrdd â phobl dan do, a’r tymheredd is yn lledaenu’r firws.
Roedd mwy na 80% o bobl dros 65 oed wedi cael eu brechlyn ffliw y llynedd, gan guro’r targed o 75%. Mae’r GIG wedi gosod uchelgais i frechu o leiaf 85% o’r grŵp yma eleni.
Fe fydd pob gweithiwr iechyd ar y rheng flaen a gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael cynnig y brechlyn ffliw, gyda’r gobaith y bydd o leiaf 85% yn derbyn y cynnig.