Mae wyth ardal, gan gynnwys Bwrdeistref Sirol Wrecsam, wedi cyrraedd rhestr hir Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025.

Bydd yr wyth ardal yn derbyn £40,000 yr un er mwyn parhau â’u cais.

Fe wnaeth tua 20 ardal wneud cais, gan gynnwys Bangor a gogledd orllewin Cymru, sir Conwy, Powys a Chasnewydd, ac mae’r pwyslais y tro hyn ar “godi’r gwastad wrth sicrhau mynediad at ddiwylliant dros y wlad”.

Bydd Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon, Bradford, Cernyw, Swydd Durham, Derby, Southampton, a Stirling hefyd yn cystadlu am y teitl, gan obeithio cymryd y teitl gan Coventry.

Am y tro cyntaf, bydd yr ardaloedd ar y rhestr hir yn cael mynediad at £40,000 yr un er mwyn datblygu eu cais llawn cyn i’r rhestr fer gael ei chyhoeddi flwyddyn nesaf.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon Cymru, ei bod hi wrth ei bodd bod Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cyrraedd rhestr hir Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025.

“Mae gennym ni ddiwylliant hyfryd ac unigryw yma yng Nghymru, a dw i’n eithriadol o falch ohono. Dw eisiau i’r byd wybod pa mor hyfryd yw’r diwylliant hefyd!” meddai Dawn Bowden AoS.

“Byddai derbyn teitl Dinas Diwylliant 2025 wir yn drawsnewidiol i Wrecsam, a byddi’n hwb mawr wrth i ni edrych tuag at ddyfodol mwy llachar a llewyrchus.

“Llongyfarchiadau i bawb yn Nhîm Wrecsam, a phob lwc ar gyfer camau nesaf y gystadleuaeth!”

“Chwifio’r faner dros Gymru”

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bod “Wrecsam wedi gwneud yn eithriadol o dda i chwifio’r faner dros Gymru drwy gyrraedd y rhestr hir ymysg ystod wych o geisiadau ar gyfer Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig”.

“Dw i’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth geisio dod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig gyntaf yng Nghymru, gyda’r holl gyfleoedd y byddai hynny’n ei roi i ardal gyda phedigri diwylliannol uchel sy’n cynnwys Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte, un o glybiau pêl-droed hynaf y byd, Wrecsam FC, a Theatr y Stiwt.”

“Creu newid”

Roedd gofyn i’r holl ymgeiswyr gynnwys gwybodaeth ynghylch sut maen nhw’n bwriadu defnyddio diwylliant i adfer wedi’r pandemig, yn ogystal â sut maen nhw am ddefnyddio diwylliant i dyfu a chryfhau’r ardal.

“Cafodd y cam mynegi diddordeb ei gyflwyno fel cyfle i annog mwy o lefydd i brofi manteision dod ynghyd i ddiffinio a siapio gweledigaeth ddiwylliannol ar gyfer eu hardal, ac mae’r rhestr hir yn dangos ystod a dyfnder uchelgais diwylliannol dros yr holl Deyrnas Unedig,” meddai Syr Phil Redmond, cadeirydd panel ymgynghorol arbenigol Dinas Diwylliant.

“Am y tro cyntaf, hefyd, bydd pob dinas ar y rhestr hir yn derbyn cefnogaeth ariannol i’w helpu nhw i ddatblygu eu gweledigaeth.

“Mae pob un yn wahanol.

“Mae gan bob un ei stori eu hunain i’w dweud.

“Mae pob un yn rhannu un nod: dangos sut gall diwylliant ymddwyn fel catalydd creadigol ar gyfer creu newid.

“Dw i wir yn edrych ymlaen at weld sut bydd pob stori’n datblygu.”

Bydd Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, Nadine Dorries, yn cynnal cyfarfod gyda’r ardaloedd na gyrhaeddodd y rhestr hir er mwyn gweld sut mae eu cefnogi nhw yn y ffordd orau.