Mae Wrecsam yn un o’r 20 lle fydd yn cystadlu i ennill teitl Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau heddiw (Dydd Gwener, 20 Awst) eu bod nhw wedi derbyn y nifer uchaf erioed o geisiadau, gyda dinasoedd fel Southampton a Wolverhampton yn cystadlu hefyd.
Mae Wrecsam yn un o bum lleoliad yng Nghymru sydd wedi gwneud cais, ochr yn ochr â Bangor / y gogledd orllewin, sir Conwy, Powys a Chasnewydd.
Nod y gystadleuaeth, sy’n cael ei harwain gan Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan gyda’r llywodraethau datganoledig, yw defnyddio diwylliant i ailfywiogi ardaloedd tu allan i Lundain.
Roedd gofyn i’r ymgeiswyr brofi eu bod nhw’n gallu rhoi diwylliant wrth wraidd eu cynlluniau i adfer wedi effaith y pandemig eleni.
Yn ogystal â dinasoedd, roedd rhanbarthau a grwpiau o drefi dros y Deyrnas Unedig yn cael eu hannog i ymgeisio eleni hefyd.
“Heriol”
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad am yr ymgeiswyr, dywedodd Sir Phil Redmond, cadeirydd panel cynghori arbenigol cystadleuaeth Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025: “O Derry i Hull a Coventry mae hi wedi bod yn her anodd a gwobrwyol i ddewis Dinas Ddiwylliant nesaf y Deyrnas Unedig, ac mae’r rhestr o ymgeiswyr posib ar gyfer 2025 yn awgrymu bod bywyd yn y dyfodol agos am fod yn fwy heriol fyth.
“Mae’r dair dinas sydd wedi dal y teitl ddiwethaf wedi dangos yr effaith drawsnewidiol a chatalyddol mae diwylliant yn gallu ei gael, hyd yn oed mewn llefydd sydd wedi bod yn aflwyddiannus yn y pen draw ond sydd wedi mynd ymlaen i ddatblygu partneriaethau cynaliadwy a chydweithredol.
“Mae’r rhestr ar gyfer 2025 yn dangos hyd a lled yr uchelgais, dyhead ac arloesedd sy’n bodoli o arfordir i arfordir ac o genedl i genedl dros y Deyrnas Unedig a dw i’n edrych ymlaen at yr her o drochi fy hun unwaith eto yn amrywiaeth gref y Deyrnas Unedig o greadigrwydd.”
Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai gwneud cais am y teitl yn cael effaith gadarnhaol ar lefydd, gan ddenu buddsoddiad a dod â mudiadau allweddol ynghyd.
Mae grantiau o hyd at £40,000 yn cael eu cynnig i lefydd sy’n cyrraedd y rhestr hir am y tro cyntaf, er mwyn cefnogi eu ceisiadau a sicrhau bod cymaint â phosib o leoliadau’n gallu gwneud cais.
Bydd yr enillydd, a fydd yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf, yn cymryd y teitl gan Coventry, sef Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2021.
“Dathlu diwylliant unigryw”
Wrth drafod cais Wrecsam ym mis Gorffennaf, dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, arweinydd y cyngor dros bobol, fod gan yr ardal brofiad o gynnal digwyddiadau diwylliannol amlwg.
“Mae gan Wrecsam record yn y maes ar ôl ymgymryd â blwyddyn o ddiwylliant yn 2011 ac mae ganddi asedau diwylliannol cryf gan gynnwys Tŷ Pawb, y cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd a Safle Threftadaeth y Byd, i enwi ond ychydig ohonyn nhw,” meddai.
“Rydyn ni eisiau dathlu diwylliant unigryw Wrecsam gyda thrigolion lleol ac mae Dinas Diwylliant 2025 yn cynnig cyfle unigryw i ni wneud hynny.”
Mae Coventry wedi derbyn dros £15.5 miliwn gan y llywodraeth i gefnogi ei blwyddyn fel Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig yn uniongyrchol.
Mae’r ddinas hefyd wedi denu gwerth dros £100 miliwn o fuddsoddiad ariannol er mwyn cefnogi prosiectau diwylliannol, fel Amgueddfa ac Oriel Gelf Herbert, Cadeirlan Coventry a Theatr Belgrade.
Bydd yr 20 ymgeisydd yn cael eu cwtogi i restr hir gychwynnol yn yr ychydig nesaf, ac yna’n cael eu cwtogi i restr fer yn gynnar flwyddyn nesaf, a’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2022.