Mae Cynghrair Dwristiaeth Cymru’n galw am gofrestru o feysydd campio dros dro er mwyn rheoli gor-dwristiaeth.
Er bod meysydd campio 56 diwrnod wedi’u caniatáu ar ôl i Lywodraeth Cymru lacio’r Gorchymyn Datblygu Cyffredin a Ganiateir, mae’r cynnydd mewn safleoedd newydd mewn rhai ardaloedd wedi bod yn sylweddol.
Byddai’r gofrestr yn helpu cynghorau i reoli meysydd campio heb drwyddedau, gan fod y cynnydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau naturiol a dynol, meddai’r Gynghrair.
“Rheoli’r galw”
“Rydyn ni wedi gwneud yr alwad am gofrestr genedlaethol er mwyn helpu i reoli’r galw, na welwyd ei debyg, mewn ymwelwyr i nifer o rannau o Gymru,” meddai Andrew Campbell, cadeirydd Cynghrair Dwristiaeth Cymru, sy’n cynrychioli holl sectorau’r diwydiant twristiaeth.
“Ar y funud, nid oes gennym ni lawer o syniad ynghylch niferoedd y safleoedd newydd sydd wedi agor na niferoedd yr ymwelwyr sydd yn aros mewn gwersylloedd.
“Byddai’r fath wybodaeth yn helpu i gynllunio a rheoli adnoddau’n fwy effeithiol.
“Yn syml, ni allwch chi reoli’r hyn nad ydych chi’n gallu ei fesur.
“Mae datblygiad cynaliadwy yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y diwydiant hwn, ac mae amddiffyn cymunedau, diwylliant a’r dirwedd yn allweddol i hynny.”
Tegwch yn “hanfodol”
Yn wahanol i feysydd campio gyda thrwyddedau, sy’n gorfod cael caniatâd cynllunio ffurfiol a chadw at ofynion cyfreithiol, nid oes cyfyngiadau ar niferoedd ymwelwyr sy’n aros mewn meysydd sydd wedi datblygiadau dan y Rheol 28/56 Diwrnod.
“Mae hi wedi bod yn dymor eithriadol o brysur a does yna ddim amheuaeth fod niferoedd yr ymwelwyr yn yr ardal wedi chwyddo yn sgil cynnydd mewn busnesau didrwydded yn gweithredu dan y Rheol 56 Diwrnod,” meddai Dorothy Panton, cyfarwyddwr gweithredol Parc Pebyll a Charafanau Bae Caerfai yn Nhŷ Ddewi.
“Mae hyn wedi arwain at nifer o effeithiau amlwg gan gynnwys gwasgedd dŵr is, sydd wedi golygu bod rhaid i danciau dŵr ail-lenwi Cronfa Ddŵr Glasfryn yn Nhŷ Ddewi.”
Wrth drafod y gwahaniaethau rhwng safleoedd â thrwyddedau a safleoedd didrwydded, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain, Ros Pritchard bod cael “tegwch” yn hanfodol.
“Tra bod busnesau â thrwyddedau yn gorfod cadw at amodau’r drwydded a chynnal safonau ansawdd, rydyn ni nawr yn cystadlu’n uniongyrchol â safleoedd heb drwyddedau ac ag ychydig iawn o reoleiddio, os o gwbl.”
Mae Cynghrair Dwristiaeth Cymru hefyd yn credu y byddai cofrestr yn helpu awdurdodau i weld a oes safleoedd yn torri’r cyfyngiadau amser 28/56 diwrnod.