Mae Dominic Raab yn wynebu pwysau cynyddol i ymddiswyddo am y modd yr oedd wedi delio gyda’r argyfwng yn Affganistan wrth i Lafur gyhuddo’r Llywodraeth o “ddiffyg anfaddeuol o arweinyddiaeth”

Mae’r blaid yn mynnu manylion ynglŷn â’r modd yr oedd y Llywodraeth wedi mynd i’r afael a’r sefyllfa yn Affganistan, a gwyliau’r Ysgrifennydd Tramor i Wlad Groeg, tra bod Kabul yn syrthio i ddwylo’r Taliban.

Mae Llafur wedi cyflwyno rhestr o 18 o gwestiynau brys ar gyfer yr Ysgrifennydd Tramor ynglŷn â’i wyliau a’r ffordd roedd ei adran wedi delio gyda’r argyfwng.

Galwad “brys”

Roedd Dominic Raab wedi gwrthod galwadau arno i ymddiswyddo ddydd Iau (20 Awst). Yn ôl adroddiadau, nid oedd yr Ysgrifennydd Tramor “ar gael” pan oedd swyddogion yn ei adran wedi awgrymu ei fod yn gwneud galwad “brys” i weinidog tramor Affganistan Hanif Atmar ar 13 Awst – deuddydd cyn i’r Taliban gipio Kabul.

Roedd gweinidogaeth tramor Affganistan wedi gwrthod trefnu galwad ffôn gydag un o weinidogion yr adran, yn ôl adroddiadau, gan ei ohirio tan y diwrnod wedyn. Mae wedi dod i’r amlwg ers hynny nad oedd y galwad ffôn wedi digwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor “o ystyried y sefyllfa oedd yn newid yn gyflym nid oedd yn bosib trefnu’r galwad ffôn cyn i lywodraeth Affganistan gwympo.”

Gwyliau

Yn ôl adroddiadau yn The Times roedd Syr Philip Barton, Matthew Rycroft a David Williams, ysgrifenyddion parhaol y Swyddfa Dramor, y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, i gyd ar wyliau tra bod pobl yn cael eu cludo o Affganistan.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Mae’r holl adrannau ar draws Whitehall wedi bod yn gweithio’n galed ar bob lefel yn y dyddiau a’r wythnosau diwethaf ar y sefyllfa yn Affganistan.

“Diolch i’r ymdrechion hynny, ry’n ni wedi adleoli 2,000 o bobl Affganistan i’r Deyrnas Unedig ers mis Mehefin, wedi cludo 400 o ddinasyddion Prydain a’u teuluoedd ar awyrennau’r Lluoedd Awyr ers dydd Sul ac wedi cyflwyno un o’r cynlluniau mwyaf hael yn hanes Prydain ar gyfer ffoaduriaid.”

Dywedodd ysgrifennydd tramor cysgodol Llafur, Lisa Nandy: “Mae’r ffaith bod y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Tramor wedi bod ar wyliau yn ystod un o’r argyfyngau polisi tramor mwyaf ers cenhedlaeth yn dangos diffyg anfaddeuol o arweinyddiaeth.”

Mae Plaid Cymru, Llafur, yr SNP a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Dominic Raab i ymddiswyddo neu gael ei ddiswyddo gan y Prif Weinidog.

Maen nhw wedi ei gyhuddo o fethu a “chyflawni ei ddyletswyddau sylfaenol” ac wedi dadlau “nad yw bellach yn addas” i gynrychioli’r wlad.

Yn y cyfamser mae Aelodau Seneddol wedi rhybuddio bod yn rhaid i’r Llywodraeth sicrhau ei bod yn cwrdd â’i chyfrifoldebau tuag at weithwyr fu’n helpu’r Deyrnas Unedig ac sy’n cael eu targedu gan luoedd y Taliban.