Mae Marks & Spencer wedi dweud bod eu strategaeth er mwyn gwella eu perfformiad yn gweithio, wrth i’r cwmni gyhoeddi eu bod wedi codi eu targedau elw.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw ar y trywydd cywir i anelu at wneud elw blynyddol o £350 miliwn yn hytrach na £300m.

Mae gwerthiant dillad a bwyd cryf yn cynnig “cadarnhad” eu bod nhw wedi elwa o’r rhaglen Never the Same Again, ym marn y cwmni.

Fe arweiniodd y rhaglen at gau dwsinau o siopau.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi cael hwb gan gynnydd yn y galw ers ailagor eu siopau dillad a nwyddau cartref ar ôl y cyfnod clo.

“Mae ansicrwydd sylweddol yn parhau ynghylch cryfder parhaus y galw, yn ogystal ag amhariadau i gadwyni cyflenwi a phwysau wedyn ar gost a maint yr elw,” ychwanegodd M&S.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi gweld cynnydd o 10.8% mewn gwerthiant bwyd dros y 19 wythnos hyd at fis Awst, 9.6% yn uwch na’r un cyfnod yn 2019.

Mae’r siopau bwyd mewn canolfannau siopau wedi cael cyfnod arbennig o “gryf”, meddai, tra bod eu safleoedd lletygarwch a masnachfraint yn gwella ond yn parhau’n is na lefelau 2019.

Yn y cyfamser, roedd gwerthiant dillad a nwyddau cartref 92.2% yn uwch na’r llynedd, a 2.6% yn is na’r un cyfnod yn 2019.