Bydd y profiad Realiti Estynedig dinesig erioed yn cael ei lansio yng Nghaerdydd, Bryste a San Fransisco heddiw (20 Awst).

Mae’r profiad, Fix Up the City, yn seiliedig ar y cymeriadau Wallace & Gromit, ac yn cael ei lansio gan dîm o bobol greadigol, sy’n cynnwys partneriaid o Gymru.

Gan ddefnyddio pŵer Realiti Estynedig a sganio digidol manwl gywir, mae Fix Up the City yn trawsnewid y dinasoedd yn llwyfan rhithwir.

Profiad rhyngweithiol o’r byd go iawn yw Realiti Estynedig, lle mae pethau sy’n bodoli yn y byd go iawn yn cael eu dyrchafu gan wybodaeth ganfyddiadol ar gyfrifiadur neu ffôn.

Gall hynny gynnwys drwy elfennau gweladwy, clywadwy, cyffyrddiadol, corffsynhwyrol neu arogleuol.

Mae profiad Caerdydd yn digwydd o amgylch Cei’r Fôr-Forwyn ac ym Mae Caerdydd.

Bydd y gêm, a fydd yn cymryd tuag awr i’w chwblhau, yn cynnwys “profiadau Realiti Estynedig hwyliog, ar raddfa fawr mewn ffordd gwbl newydd”.

Fe fydd posib rhyngweithio â roced enwog Wallace, gwylio Gromit yn gadael ar awyren, a hyd yn oed ymladd robot anferth.

“Ar flaen y gad”

Mae’r antur estynedig wedi’i chreu gan Aardman, stiwdio animeiddiol, a Fictioneers: sy’n gydweithrediad rhwng partneriaid sy’n cynnwys Gemau Tiny Rebel yng Nghasnewydd, Potato, a Sugar Creative.

Mae’r gweithgaredd, sy’n cael ei ariannu gan Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig, yn dilyn lansiad llwyddiannus The Big Fix Up gan Fictioneers yn gynharach eleni.

“Rydym mor gyffrous i lansio Fix Up The City yr haf hwn. Mae’n brofiad sy’n rhoi’r dinasoedd hyn ar flaen y gad o ran profiadau realiti estynedig ar raddfa dinas,” meddai cyfarwyddwr creadigol Gemau Tiny Rebel (cyd-sylfaenydd Fictioneers), Lee Cummings.

“Mae’r prosiect hwn wedi ein galluogi i gyflawni ein huchelgais a’n galluoedd llawn a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu The Big Fix Up…”

“Ar y map”

Cafodd y prosiect gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol hefyd.

“Mae hon yn fenter mor gyffrous – ac rwy’n falch iawn o weld prosiect arloesol a chreadigol hefyd yn rhoi hwb economaidd i’r ddinas,” meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Cymru, Dawn Bowden.

“Mae bod ochr yn ochr â Bryste a San Francisco yn rhoi Cymru greadigol ar y map.

“Edrychwn ymlaen at weld pobl yn mwynhau anturiaethau Wallace a Gromit dros yr haf.”

“Trawsnewid yr ardal”

“Mae sector digidol a chreadigol Caerdydd yn un o’i gryfderau, ac mae Bae Caerdydd yn un o brif gyrchfannau twristiaeth y ddinas, gan ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer yr hyn sy’n addo i fod yn brofiad gwych i ymwelwyr o bob rhan o’r rhanbarth, a thu hwnt,” ychwanegodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden.

“Bydd y dechnoleg realiti estynedig y tu ôl i’r antur ryngweithiol hwn yn trawsnewid yr ardal yn stori deuluol, llawn troeon trwstan, fydd yn denu ymwelwyr, ac yn hwb i economi’r ddinas wrth i ni barhau i wella o effaith y pandemig.

“Mae tîm o safon uchel yn gweithio ar y prosiect hwn, ac rydym yn falch iawn o gael ein dewis ochr yn ochr â Bryste a San Francisco, fel un o ddim ond tair dinas ledled y byd i gynnal y digwyddiad unigryw hwn.”

Mae’r antur ar gael ar ffonau clyfar iOS ac Android yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r ap ‘Fix Up the City’ ar gael i’w lawrlwytho o 20 Awst ac am ddim am gyfnod cyfyngedig.