Gallai’r SNP a’r Blaid Werdd daro bargen i rannu grym yn yr Alban fore heddiw (20 Awst).
Mae’r BBC ar ddeall eu bod nhw wedi dod i gytundeb, a bod y cabinet yn cyfarfod yn rhithiol heddiw i gymeradwyo’r cynnig.
Byddai’r cytundeb yn rhoi mwyafrif i Lywodraeth yr Alban allu pasio deddfwriaethau newydd, gan gynnwys bil i gynnal refferendwm annibyniaeth arall.
Bu’r ddwy blaid yn trafod ers mis Mai, ar ôl i’r SNP fethu â chael mwyafrif cyfan gwbl yn etholiadau Holyrood ym mis Mai.
Byddai cytundeb yn golygu bod y Blaid Werdd yn rhan o waith llywodraeth genedlaethol am y tro cyntaf erioed yn y Deyrnas Unedig.
Er bod y ddwy blaid wedi dweud na fydd clymblaid ffurfiol rhyngddyn nhw, byddai cytundeb yn golygu eu bod nhw’n gweithio gyda’i gilydd ar faterion pwysig, a gallai rhai o Aelodau’r Senedd y Blaid Werdd ddod yn weinidogion yn llywodraeth Nicola Sturgeon.
Cytundeb fel un Seland Newydd?
Ddydd Sul, dywedodd cyd-arweinydd y Blaid Werdd, Patrick Harvie, fod y ddwy blaid wedi bod yn “trio cau pen y mwdwl ar y trafodaethau”.
“Mae pawb yn awyddus i wybod y canlyniad, dw i ddim yn meddwl bod gennych chi amser hir i aros,” meddai wrth y BBC.
“Os ydyn ni’n cytuno ar rywbeth gyda’r SNP ni fydd yn dod yn weithredol nes i aelodau ein plaid bleidleisio… rydyn ni’n trio cau pen y mwdwl ar y drafodaeth.
“Dw i’n gobeithio y byddwn ni’n cyhoeddi rhywbeth yn fuan.”
Mae asiantaeth newydd y Press Association ar ddeall fod cytundeb fel yr un yn Seland Newydd dan ystyriaeth gan weision sifil yr Alban.
Mewn e-bost a gafodd ei yrru at aelodau’r Blaid Werdd yn yr Alban yn gynharach y mis hwn, dywedodd y Blaid fod model fel un Seland Newydd yn cael ei ystyried gan weision sifil a chyfreithwyr y Llywodraeth.
Yno, mae Aelodau Seneddol o’r Blaid Werdd yn weinidogion yn y llywodraeth ond dydyn nhw ddim mewn clymblaid swyddogol.
Pryderon
Mae’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yn yr Alban wedi codi pryderon ynghylch cytundeb bosib.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr fod maniffesto’r Blaid Werdd ym mis Mai yn niweidiol am eu bod yn addo rhoi stop ar dyrchu am olew a nwy ym Môr y Gogledd, a rhoi’r fwyell i brosiectau newydd i adeiladu ffyrdd.
Yn y cyfamser, mae arweinydd y Blaid Lafur, Anas Sarwar, wedi herio’r Blaid Werdd i sefyll yn erbyn toriadau pellach i gynghorau lleol.
“Dyw hi ddim syndod y byddai pleidiau sydd ond â diddordeb mewn sgorio pwyntiau gwleidyddol yn dychryn o glywed unrhyw awgrym o gydweithio er budd pobol a’r blaned,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Werdd.
Dywedodd llefarydd ar ran Nicola Sturgeon: “Yn dilyn llwyddiant ysgubol yr SNP yn yr etholiad ym mis Mai, fe wnaeth y Prif Weinidog estyn gwahoddiad agored i bob plaid drafod meysydd yr oedden nhw’n meddwl y byddai’n bosib iddyn nhw weithio’n agos â’r SNP mewn Llywodraeth arnyn nhw er mwyn da – o gofio’r heriau eithriadol sy’n wynebu ni fel yr argyfwng hinsawdd ac adfer o’r pandemig.
“Mae’r ffaith fod Llafur a’r Torïaid wedi penderfynu peidio â derbyn y cynnig hwnnw’n dweud dipyn mwy amdanyn nhw na neb arall.”