Mae cynlluniau ar droed i atgyweirio morglawdd hiraf Ewrop er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i amddiffyn tref Caergybi rhag llifogydd.

Ar hyn o bryd, mae’r porthladd a’r dref wedi eu cysgodi o’r dŵr gan y wal fawr sy’n 1.7 milltir o hyd, ond yn ôl datblygwyr mae’r drefn cynnal a chadw presennol yn “anghynaladwy.”

Rhybuddion nhw bod y morglawdd presennol ond yn ateb tymor byr ac yn atal y risg o lifogydd am 15 mlynedd yn unig.

Cafodd  ei adeiladu dros gyfnod o 28 mlynedd a’i gwblhau yn 1873, gyda dros 1,300 o bobl yn gyfrifol am y gwaith.

Angen datrysiad ‘mwy hyfyw’

Mewn cais cynllunio, fe wnaeth cwmni Stena Line bwysleisio’r angen am welliannau, gyda’r cynlluniau cynnal a chadw sydd mewn lle ar hyn o bryd yn costio £150,000 y flwyddyn ar gyfartaledd i’r cwmni.

“Ers ei gwblhau ym 1873, mae’r twmpath rwbel [sy’n sail i’r strwythur] wedi cael ei erydu’n raddol gan y tonnau gan gynyddu trawiadau’r tonnau ar y strwythur,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

“Heb gynnal a chadw byddai dirywiad y twmpath rwbel yn peryglu gweddill y strwythur a thorri cyfyngiadau’r morglawdd.

“Mae’r drefn bresennol wedi dod yn fwyfwy costus i ni a bellach ddim [yn effeithiol], felly, mae angen datrysiad hirdymor mwy hyfyw i sicrhau sefydlogrwydd y morglawdd.”

Mae disgwyl y bydd Cyngor Ynys Môn yn ystyried y cais dros y misoedd nesaf yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, yn ogystal ag ymgynghoriad i farn asiantaethau a chyrff statudol gan gynnwys Cyngor Tref Caergybi.