Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn galw ar bobl i fod yn fwy gofalus wrth fynd i’r dŵr.
Daw hyn yn dilyn marwolaethau dau o bobol yn y parc hyd yma eleni, yn cynnwys dyn 28 oed ym Mhontneddfechan ddydd Llun, 16 Awst.
Pob blwyddyn mae degau o filoedd o bobl yn ymweld â’r ardal, ac mae’r lle yn llawn rhaeadrau ac afonydd eiconig.
Dywed Awdurdod y Parc y dylai ymwelwyr fod yn ofalus wrth fynd i ddŵr, gan nodi’r risg o sioc oerfel.
Hefyd maen nhw yn galw ar bobol i baratoi ar gyfer tirwedd garw’r ardal drwy wisgo dillad ac esgidiau addas, yn ogystal â dod â dŵr ar ddiwrnodau poeth.
Codi ymwybyddiaeth
“Mae’n drist ofnadwy clywed am y trasiedïau sy’n digwydd yn ein Parc,” meddai Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
“Mae ein meddyliau gyda holl deuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi dioddef anffawd o’r fath.
“Rydyn ni eisiau codi ymwybyddiaeth o’r peryglon y gallai ymwelwyr eu hwynebu i helpu i osgoi digwyddiadau yn y dyfodol, ac annog unrhyw un sy’n ymweld â’r ardal i ddod yn barod.”
“Croesawu ymwelwyr newydd”
Dywed Jon Pimm, sy’n warden i’r Parc, bod “cynnydd enfawr” yn nifer yr ymwelwyr eleni.
“Gyda phobl yn ceisio cael gwyliau yn y Deyrnas Unedig yr haf hwn, rydyn ni’n croesawu ymwelwyr newydd sydd efallai ddim yn gyfarwydd â’r heriau o grwydro yn yr awyr agored,” meddai.
“Rydyn ni am sicrhau bod ymwelwyr yn cyrraedd yn barod am beryglon posibl.
“Mae’n dirwedd wirioneddol brydferth ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn ystyried cyngor diogelwch i sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau un.”