Mae undeb ffermio NFU Cymru yn dweud ei bod hi’n “glec sylweddol” i’r diwydiant amaeth fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwahardd cludo anifeiliaid byw i’r cyfandir i gael eu lladd.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ynghylch llesiant anifeiliaid dywedodd yr undeb fod angen i’r “holl fesurau gael eu seilio ar dystiolaeth”.

Mae mesurau newydd hefyd yn cynnwys cyflwyno cyfyngiadau tymheredd ar gyfer cludo ieir, defaid a gwartheg, a chaniatáu mwy o uchder yn y cerbydau sy’n eu cludo.

“Afresymegol”

“Yn NFU Cymru rydyn ni’n dadlau’n gryf dros sicrhau fod blaenoriaeth yn cael ei roi i lesiant anifeiliaid, boed hynny ar y fferm neu wrth gael eu cludo,” meddai Wyn Evans, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r holl fesurau gael eu seilio’n wyddonol ar dystiolaeth gref ac annibynnol.

“Yn amlwg, mae’r penderfyniad i wahardd cludo anifeiliaid byw i’r cyfandir neu ymhellach i gael eu lladd yn glec sylweddol, yn enwedig pan roedd NFU Cymru wedi awgrymu cynllun gwarantu.

“Roedd y cynllun hwn yn cynnwys safonau uchel amlwg cynt megis y gallai anifeiliaid gael eu cludo mewn lorïau gyda’r mesurau uchaf ar gychod Ro Ro.

“Mae gwaharddiad cludo o’r fath, sy’n seiliedig ar siwrnai byr ac i ladd-dai sydd wedi’u cymeradwyo ar y cyfandir, yn afresymegol.”

“Methu edrych ar y darlun llawn”

Ar ôl ymgynghori ag aelodau dros sectorau da byw yn gynharach eleni, fe wnaeth NFU Cymru ffurfio ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Wyn Evans eu bod nhw’n siomedig y bydd rhaid cynyddu uchder cerbydau cludo anifeiliaid.

“Bydd hyn yn golygu ail-ddylunio nifer o gerbydau da byw, ac mewn rhai achosion bydd yn golygu mai dim ond un llawr fydd mewn cerbydau,” meddai.

“Yn ogystal, gallai’r fath benderfyniad weithio yn erbyn llesiant anifeiliaid, gyda mwy o uchder yn caniatáu i stoc fynd ar gefnau ei gilydd wrth gael eu cludo.

“Ar nodyn mwy cadarnhaol, rydyn ni’n croesawu’r newidiadau i leihau cyfyngiadau tymheredd a oedd wedi’u cynnig yn wreiddiol ar gyfer gwartheg, defaid a moch.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n siomedig fod y llywodraeth wedi methu ag edrych ar y darlun llawn yma,” ychwanegodd Wyn Evans.

“Tra ein bod ni’n gwbl gefnogol dros yr angen i ladd-dai a chyfleusterau prosesu fod mor agos â phosib i’r ardaloedd cynhyrchu, dydi hyn ddim o hyd yn bosib ac mae yna angen gwirioneddol i edrych ar ein rhwydwaith o leoliadau lladd-dai ac annog rhai newydd lle bo hynny’n addas.”

“Achosi problemau”

Fe wnaeth Cadeirydd Bwrdd Ieir NFU Cymru, Richard Williams, ddweud ei fod e’n siomedig fod cyfyngiadau tymheredd wrth gludo ieir am ddod i rym.

“Bydd hyn yn achosi problemau i’r gadwyn gyflenwi yn ystod cyfnodau poeth ac oer o’r flwyddyn,” meddai.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n falch fod y llywodraeth wedi penderfynu eithrio’r amser llwytho a dadlwytho ar gyfer terfyn siwrnai cludo ieir.”

Dywedodd y bydd hyn o fudd i leisiant ieir gan y bydd llai o bwysau amser wrth eu llwytho a’u dadlwytho.

“Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r diwydiant wrth i newidiadau ddod i rym a gadewch i ni obeithio, felly, y gallen nhw fod yn bragmataidd a gweithio gyda ffermwyr.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae lles pob anifail, gan gynnwys lles anifeiliaid wrth eu cludo, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

“Mae allforio anifeiliaid ar gyfer eu lladd neu eu pesgi yn ddianghenraid gan ein bod yn gallu gwneud hynny i gyd yn y wlad hon. Ni ddylai anifeiliaid gael eu cludo oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol a bod y daith mor fyr â phosibl.

“Dim ond cyfran fach iawn o’r holl anifeiliaid sy’n cael eu prosesu yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn sy’n cael eu hallforio ar gyfer eu lladd.

“Yn 2020, roedd y ffigurau allforio anifeiliaid ar gyfer eu lladd o Brydain Fawr i’r Undeb Ewropeaidd yn cyfrif am ryw 0.02% o’r holl dda byw gafodd eu lladd yn y Deyrnas Unedig a llai na 0.2% o’r defaid a gynhyrchwyd yn y Deyrnas Unedig.

“Gyda’r ymgynghoriad ar les anifeiliaid yn cael eu cludo wedi dod i ben, byddwn yn gweithio nawr gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys ffermwyr a grwpiau lles anifeiliaid, i ddatblygu’r mesurau hyn ymhellach i wella lles anifeiliaid fferm wrth eu cludo.”