Mae cais wedi’i gyflwyno i gael adeiladu 106 o dai gyferbyn ag Ysbyty Glan Clwyd, a ger safle posib ar gyfer adeiladu cyfleuster iechyd meddwl “modern”.

Daw’r cais cynllunio ar ran Pure Homes yn Llanelwy, ar gyfer tir sydd gyferbyn â phrif fynedfa safle’r ysbyty ym Modelwyddan yn Sir Ddinbych.

Byddai’r safle yn gymysgedd o dai a fflatiau ac maen nhw’n addo “man agored cyhoeddus sylweddol a choed ar ochrau’r ffyrdd” ac ardal chwarae i blant.

Mae’r cynnig yn cynnwys 17 tŷ yn sefyll ar eu pennau eu hunain gyda phedair a phum llofft, 26 tŷ mewn parau o ddai gyda thair llofft, 25 o dai rhes tair neu dwy lofft, a 38 fflat dwy lofft – gyda 227 lle parcio ar y safle.

Daeth i’r amlwg o ddogfennau’r asiantaeth mai dim ond dau ymateb gafodd yr Ymgynghoriad Cynllunio cyn i’r cais fynd mewn.

Doedden nhw ond wedi holi un aelwyd, sydd â’u heiddo drws nesaf i dir amaethyddol a fyddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y datblygiad, yn uniongyrchol.

Gofynnwyd i berchennog tir amaethyddol cyfochrog, Cyngor Tref Bodelwyddan a’r cynghorydd sir lleol am eu barn hefyd.

‘Hybu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus’

Wrth ystyried y cais cynllunio, fe wnaeth Dŵr Cymru dynnu sylw at un brif bibell ddŵr sy’n rhedeg drwy ran o’r safle, a dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru nad oedd angen iddyn nhw ymgynghori cyn i’r cais gael ei roi mewn.

Dywedodd asesiad trafnidiaeth oedd yn rhan o’r cais: “Bydd mynediad i’r safle arfaethedig yn cymryd ffurf cyffordd blaenoriaeth wedi’i reoli gyda chyfleuster ynys er mwyn troi i’r dde oddi ar Ffordd Rhuddlan.

“Byddai’r cyfleuster troi i’r dde yn sicrhau bod cerbydau sy’n gysylltiedig â’r datblygiad yn gallu cael mynediad a ffordd allan o’r safle heb amharu ar berfformiad gweithredu Ffordd Rhuddlan na chyffordd cylchfan yr ysbyty.”

Dywedodd hefyd y byddai yn hwb “cadarnhaol” i bobol sydd am gerdded, beicio ac i drafnidiaeth gyhoeddus ar y safle.

Cyfleuster iechyd meddwl

Fodd bynnag, byddai’r datblygiad newydd bron yn gyfochrog ag ardal sydd wedi’i chlustnodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer cyfleuster iechyd meddwl “modern”.

Mae Bwrdd Iechyd y Gogledd yn edrych ar y manylion ar gyfer adeiladu’r uned ar gornel gogledd-orllewinol safle Ysbyty Glan Clwyd, sy’n faes parcio ar y funud.

Dywedodd Jill Timmins, cyfarwyddwr rhaglen i Ablett Unit Redevelopment, fod y bwrdd iechyd wedi ystyried pryderon trigolion ac yn ymrwymedig i weithio’n agos â’r gymuned leol, ar ôl i’r cynlluniau gwreiddiol gael eu gwrthod ym mis Ionawr oherwydd eu bod nhw rhy agos at dai.

Ychwanegodd: “Mae’r safle newydd i ffwrdd oddi wrth ffiniau preswylwyr lleol a gallai gynnig golygfeydd therapiwtig dros fannau gwyrdd yng nghefn yr ysbyty.”

Ond gallai’r tai newydd effeithio ar rai o’r “golygfeydd therapiwtig” hynny.

Dywedodd datblygwr y tai arfaethedig eu bod yn awyddus i greu llecyn y byddai “pobol eisiau byw ynddo a theimlad o le” drwy’r rhaglen newydd.

Mae trigolion a grwpiau sydd â diddordeb yn gallu rhoi sylw ar y cais llawn drwy ymweld â’r adran gynllunio ar wefan Cyngor Sir Ddinbych cyn 15 Medi.